| Argraffu'r canllawiau llawn

Unigolion

Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.

Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.

Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).

Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.

Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
  • Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
  • Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
  • Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen

Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Beth sy’n gwneud unigolyn yn un a ganiateir?

Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar adeg rhoi’r rhodd.1  Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor. 

Os ydych yn cael cymynrodd, a bod yr unigolyn ar y gofrestr etholiadol unrhyw bryd yn y pum mlynedd cyn eu marwolaeth, gallwch dderbyn y rhodd.2

Sut ydych chi’n gwirio caniatâd?

Dylech ddefnyddio’r gofrestr etholiadol i wirio a yw unigolyn yn cael caniatâd, gan mai dyma’r ffordd orau o sicrhau bod yr unigolyn ar gofrestr etholiadol ar adeg y rhodd. Efallai na fydd mathau eraill o ddogfennaeth yn ddigon i warantu bod rhywun ar y gofrestr etholiadol ar yr adeg y derbyniwyd y rhodd.

Mae hawl gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gael copi am ddim o’r gofrestr etholiadol llawn.3

Fel arfer caiff fersiwn newydd o’r gofrestr ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr bob blwyddyn, a chaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd. 

Dylech gysylltu â’r adran cofrestru etholiadol yn y cyngor lleol perthnasol yn ysgrifenedig wrth ofyn am eich copi, gan esbonio eich bod yn gofyn amdano fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid.4  Yn eich cais, dylech hefyd ofyn iddynt anfon yr holl ddiweddariadau i’r gofrestr atoch ar gyfer y flwyddyn honno, hyd at y dyddiad y derbyniwyd y rhodd. Byddwch yn derbyn y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn brintiedig o’r gofrestr.5

Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a’r diweddariadau’n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd. 

Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt awdurdodau lleol trwy ein chwiliwr cod post.

O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw’r unigolyn wedi’i gofrestru’n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad eich bod wedi gweld tystiolaeth bod ganddo gofnod dienw ar y gofrestr.6  Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif cofrestriad dienw. Mae’n rhaid i chi gyflwyno copi o’r dystysgrif gyda’ch adroddiad.7

Dim ond er mwyn cadarnhau a yw unigolyn yn un a ganiateir, neu at ddibenion etholiadol, y cewch ddefnyddio’r gofrestr. Ni ddylech ei drosglwyddo i unrhyw un arall, datgelu unrhyw wybodaeth ar y gofrestr nad yw’n ymddangos ar y gofrestr agored na defnyddio unrhyw wybodaeth ar y gofrestr at ddibenion nad ydynt yn etholiadol.8

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Rhaid i chi gofnodi: 

  • enw llawn yr unigolyn
  • y cyfeiriad fel y mae’n ymddangos ar y gofrestr etholiadol, neu os mai etholwr tramor yw’r person, ei gyfeiriad cartref9

Efallai y bydd o ddefnydd i chi nodi rhif etholiadol y person, fel cofnod o’ch gwiriad.

Os ydych chi wedi derbyn cymynrodd, cysylltwch â ni i gael cyngor ar wirio a yw’n ganiataol a’r gofynion adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Ebrill 2026