| Argraffu'r canllawiau llawn

Ffynonellau eraill

Undebau llafur

I fod yn undeb llafur a ganiateir mae’n rhaid iddo fod wedi’i restru’n undeb llafur gan y Swyddog Ardystio.1  Dylech wirio’r rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio.

Cymdeithasau adeiladu

I fod yn gymdeithas adeiladu a ganiateir, mae’n rhaid iddi fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986.2  Dylech wirio’r rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi’u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gydfuddiannol Gyhoeddus.

Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus

Mae’n rhaid i gymdeithasau cyfeillgar, a chymdeithasau diwydiannol a darbodus gael eu cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymunedol 2014, neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn cael caniatâd.3  Dylech wirio’r Gofrestr Gydfuddiannol Gyhoeddus a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Beth sydd angen i chi ei gofnodi?

Bydd angen i chi gofnodi: 

  • enw’r rhoddwr
  • y cyfeiriad fel y’i dangosir yn y gofrestr berthnasol4
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025