Gwariant yn ystod a thu allan i’r cyfnod a reoleiddir
Efallai y bydd angen i chi rannu eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir yr ydych yn eu gwneud yn ystod a thu allan i’r cyfnod a reoleiddir. Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys gwasanaeth y gwnaethoch chi ddechrau ei ddefnyddio cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau ac y gwnaethoch barhau i’w ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Yn y senarios hyn, dim ond y gwariant rydych chi wedi’i ysgwyddo ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy’n adroddadwy ac yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant.
Enghraifft A: Canfasio cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Rydych ch’n cynnal canfasio ddau fis cyn y cyfnod a reoleiddir ac am ddau fis yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Dim ond y costau sy’n gysylltiedig â’r canfasio a wnewch yn ystod y cyfnod a reoleiddir fydd yn cyfrif fel gwariant ymgyrchu a reoleiddir.
Gan eich bod wedi treulio’r un faint o amser yn canfasio, er mwyn darganfod y gost y mae angen i chi ei hadrodd dylech rannu cyfanswm y gwariant ar ganfasio dros y cyfnod hwn yn ei hanner. Rhaid i chi gynnwys y costau sy’n gysylltiedig â chanfasio yn ystod y cyfnod a reoleiddir yn eich ffurflen gwariant.
Enghraifft B: Costau gwefan cyn ac yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Cyn i’r cyfnod a reoleiddir ddechrau, rydych chi’n creu rhan o wefan eich sefydliad y gellir yn rhesymol ei hystyried fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros bleidiau nad ydynt yn cefnogi datblygiad lleol arfaethedig. Rydych chi’n parhau i’w ddefnyddio a’i ddiweddaru yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Gan mai dim ond y gwariant a ysgwyddwyd yn ystod y cyfnod a reoleiddir sy’n rhaid ei adrodd, bydd angen i chi rannu’r costau dylunio, y costau cynnal gwefan a chostau perthnasol eraill rhwng y ddau gyfnod.
Os yw’r costau dylunio a chostau eraill yn £9,000, ac rydych chi’n ei ddefnyddio dros gyfnod o chwe mis, y gost y mis yw £9,000 ÷ 6 = £1,500 y mis.
Os yw’r cyfnod a reoleiddir yn cwmpasu’r 4 mis olaf, yna’r cyfanswm costau yn ystod y cyfnod a reoleiddir yw 4 × £1,500 = £6,000.