Rydych fel arfer yn ‘cael’ rhodd ar y diwrnod rydych yn dod yn berchen arni.
Er enghraifft:
os rhoddir taflenni am ddim i chi, rydych yn cael y rhodd pan gaiff y taflenni eu trosglwyddo i chi
os rhoddir siec i chi, rydych yn cael y rhodd ar y diwrnod y mae’r siec yn cael ei chlirio
os trosglwyddir rhodd yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, rydych yn cael y rhodd ar y dyddiad y mae’n cyrraedd eich cyfrif1
Pryd ydych chi’n derbyn rhodd?
Rydych chi’n derbyn rhodd ar y diwrnod rydych chi’n cytuno i gadw’r rhodd. Ar gyfer rhoddion nad ydynt yn arian, os ydych chi’n defnyddio’r rhodd, rydych chi felly wedi’i derbyn.
Os yw eich sefydliad yn cadw rhodd ar ôl y cyfnod o 30 diwrnod, ystyrir eich bod hefyd wedi’i derbyn.2
1. Atodlen 11, paragraff 7 ac adran 56(6) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA)↩ Back to content at footnote 1