Dylech wneud yn siŵr bod eich tudalen cyllido torfol yn nodi ar gyfer beth y mae’r arian yn cael ei gyfrannu. Dim ond ynghylch rhoddion a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau y mae’r deddfau ar roddion yn berthnasol, yn benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Dylech egluro a yw’r arian yn cael ei godi i’w wario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.Mae hyn yn bwysig oherwydd nid yw’r deddfau’n cynnwys arian a dderbynnir at ddibenion cyffredinol y sefydliad. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gweithgareddau sy’n cyfrif a sut i asesu a yw gweithgaredd wedi’i reoleiddio yn Gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.
Dylech sicrhau bod y dudalen yn cynnwys gwybodaeth yn egluro y bydd gwiriadau caniatâd yn cael eu cynnal yn unol â’r gyfraith. Dylech fod yn glir ynghylch y rhesymau pam yr ydych yn casglu unrhyw wybodaeth.
Dylai eich tudalen cyllido torfol hefyd esbonio y gall gwybodaeth am roddion a gwybodaeth am roddwyr, gan gynnwys rhoddion preifat, gael eu hadrodd i’r Comisiwn Etholiadol a’u cyhoeddi. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad y term ‘rhodd cyllido torfol preifat’, yn Dewis platfform cyllido torfol.
Rydym yn argymell eich bod yn glir ac yn egluro os na ellir adnabod rhoddwr, neu os yw’n rhoddwr nas caniateir, yna bydd yn rhaid dychwelyd y rhodd. Os na chewch ddigon o wybodaeth am roddwr, efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn am ragor o fanylion.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am argraffnodau digidol yn Argraffnodau.
Os ydych chi’n bwriadu creu ymgyrch cyllido torfol ac rydych chi’n ansicr ynghylch pa ofynion sy’n berthnasol, neu sut i gynllunio eich ymgyrch i fodloni gofynion, gallwch chi gysylltu â ni am gyngor.