Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau: Etholiadau Senedd Cymru
Rhoi gwybod am roddion cyllido torfol
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau roi manylion eu gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir a manylion unrhyw roddion adroddadwy a dderbyniasant tuag at y gwariant hwn i ni ar ôl yr etholiad. Rydym yn galw’r adroddiad hwn yn ffurflen gwariant a rhoddion.
Cyn i chi gwblhau a chyflwyno eich ffurflen gwariant a’ch ffurflen rhoddion, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal gwiriadau caniatâd ar bob rhodd a reoleiddir sydd dros £500.
Nid oes cyfnod adrodd penodol ar gyfer rhoddion yn eich ffurflen gwariant a rhoddion. O dan y gyfraith mae’n rhaid i chi gynnwys rhoddion a gawsoch fel ymgyrchydd cofrestredig nad yw’n blaid tuag at eich gwariant ar weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir ar unrhyw adeg, lle bodlonir y meini prawf adrodd canlynol. Mae hyn yn cynnwys rhoddion ar gyfer gwariant ymgyrchu a reoleiddir a gawsoch y tu allan i’r cyfnod a reoleiddir.
Rhoddion a ganiateir
Rhaid i chi roi gwybod am roddion pryd bynnag y bydd y cyfanswm a dderbynnir gan y rhoddwr tuag at fodloni’ch gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn fwy na £7,500. Gall hyn fod yn rhodd unigol o dros £7,500, neu roddion lluosog (dros £500) sy’n dod i gyfanswm o fwy na £7,500.1 Wrth adio rhoddion lluosog gan yr un rhoddwr dylech dim ond cynnwys rhoddion sydd dros £500.
Rhaid i chi hefyd roi gwybod am gyfanswm gwerth unrhyw roddion eraill a dderbynioch rhwng £500 a £7,500 a dderbyniwyd at ddiben bodloni’r gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.2 Rhoddion yw’r rhain nad ydynt yn adroddadwy’n unigol gan nad yw’r cyfanswm yn fwy na £7,500. Does dim angen i chi ddarparu unrhyw wybodaeth arall i ni am y rhoddion hyn.
Rhoddion na chaniateir
Rhaid i chi roi gwybod am bob rhodd dros £500 gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys a dderbynnir at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Nid oes angen i chi adio rhoddion nas caniateir.
Pa fanylion y mae’n rhaid i chi eu hadrodd?
Ar gyfer rhoddion rydych wedi’u derbyn sydd (neu sy’n adio i fyny i) dros £7,500, rhaid i chi roi gwybod am y canlynol:
- y manylion gofynnol ar gyfer y math o roddwr3 (gweler Gan bwy allwch chi dderbyn rhoddion? am ganllawiau ar y manylion y mae’n rhaid i chi eu cofnodi ar gyfer pob math o roddwr)
- swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol4
- y dyddiad y cawsoch y rhodd
- y dyddiad y derbynioch y rhodd5
Ar gyfer rhoddion gan roddwyr nas caniateir neu roddwyr anhysbys, mae’n rhaid i chi adrodd am y canlynol:
- enw’r rhoddwr, os yw’n hysbys, neu’r ffordd y gwnaed y rhodd6
- swm y rhodd, os yw’n ariannol, neu natur a gwerth y rhodd os yw’n anariannol7
- y dyddiad y cawsoch y rhodd8
- y dyddiad y dychweloch y rhodd9
- y camau a gymerwyd gennych i ddychwelyd y rhodd (er enghraifft, y person neu’r sefydliad y gwnaethoch ei dychwelyd iddo)10
Ffioedd platfform cyllido torfol
Gall platfformau cyllido torfol godi ffioedd am drafodion rhoddion, trosglwyddo arian, ac am ddefnyddio eu platfform. Mae’r ffioedd hyn yn cyfrif fel traul etholiad, ac mae’n rhaid i chi eu hadrodd yn eich ffurflen o dan y categori costau gweinyddol a llety.
Gall y ffioedd hyn fod yn ganran o’r rhoddion a gewch. Rhaid i chi adrodd am werth llawn y rhoddion a dderbyniwyd11 a rhoi gwybod am y ffioedd ar wahân fel gwariant etholiad. Mae’n dderbyniol i’r ffioedd hyn gael eu cydgrynhoi a’u hadrodd fel un llinell o wariant yn eich ffurflen.
Ar ôl yr etholiad
Bydd angen i chi adrodd y manylion hyn yn eich ffurflen. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ffurflen, a phryd y bydd angen i chi ei chyflwyno, yn Cwblhau eich ffurflen.
Os nad ydych yn siŵr pa ofynion adrodd sy’n berthnasol, gallwch gysylltu â ni am gyngor.
- 1. Atodlen 11, paragraff 10(2) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 11, para. 10(3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 11, para. 10(1)(c) ac Atodlen 6, para. 2 PPERA ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 11, para. 10 (1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 11, para. 10 (1)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 11, para. 11 (2)(a) a (3)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 11, para. 11 (2)(b) a (3)(b) PPERA ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 11, para. 11 (2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 11, para. 11 (2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Atodlen 11, para. 11 (2)(c) a (3)(c) PPERA ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 11, para. 10 (1)(a) PPERA ↩ Back to content at footnote 11