Dylech wirio’r gofrestr yn Nhŷ’r Cwmnïau. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni.
Sut ydych chi’n gwirio os yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Mae’n rhaid i chi fod yn fodlon fod y PAC yn cyflawni busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os oes gennych wybodaeth bersonol uniongyrchol am y PAC, dylech wirio cofrestr Tŷ’r Cwmnïau i weld os:
a yw’r PAC yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o’r gofrestr
a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y PAC yn hwyr
Gall PAC barhau â busnes os yw mewn datodiad, yn segur neu’n hwyr yn ffeilio dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol i fod yn fodlon fod hyn yn digwydd.
Ar gyfer unrhyw PAC, dylech ystyried edrych ar:
gwefan y PAC
masnach perthnasol, cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau parchus
cyfrifon diweddaraf wedi’u ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau
Os ydych yn dal i fod yn ansicr os yw’r PAC yn cyflawni busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig o’i weithgarwch busnes gan gyfarwyddwyr y PAC.