| Argraffu'r canllawiau llawn

Nodi staff cymorth yn eich cyngor

Dylech nodi staff cymorth a sicrhau eu bod ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau cyhoeddus a gewch efallai yn y cyfnod cyn yr etholiad. Gall fod cyfleoedd i ddefnyddio staff cymorth presennol eich cyngor i gyflawni'r rôl hon.

Dylai'r staff cymorth a ddefnyddiwch gael hyfforddiant i ddeall bod gwahanol rwystrau y gall aelodau anabl o'r cyhoedd eu hwynebu wrth gael gafael ar wybodaeth neu bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Efallai y bydd pleidleiswyr anabl yn cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Lleol i nodi agwedd benodol lle mae angen cymorth arnynt yn yr orsaf bleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am ddeall rhwystrau i bleidleisio yn ein canllawiau.

Rheoli ymholiadau gan y cyhoedd

Dylech sefydlu tîm penodedig i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau sylfaenol, fel cwestiynau ynghylch p'un a yw rhywun wedi'i gofrestru i bleidleisio, pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy a lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi weithio gyda Swyddog Cofrestru Etholiadol eich awdurdod lleol fel y bo'n briodol er mwyn hwyluso hyn. 

Dylai staff sy'n delio ag ymholiadau gan y cyhoedd gael hyfforddiant i ddelio â nhw a dylid rhoi'r canlynol iddynt hefyd:

  • ymatebion y cytunwyd arnynt i gwestiynau cyffredin 
  • rhestr o leoliadau gorsafoedd pleidleisio
  • manylion dyddiadau allweddol yn amserlen yr etholiad 
  • manylion y broses sydd ar waith i uwchgyfeirio
  • ymholiadau mwy cymhleth at aelodau tîm yr etholiad

Prosesu ceisiadau 

Bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ystyried a fydd angen unrhyw staff cymorth ychwanegol arno er mwyn helpu i brosesu ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol yn y cyfnod cyn yr etholiad – ac yn enwedig yn y cyfnod cyn y dyddiad cau cofrestru ar y 12fed diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gydgysylltu â'r swyddog hwnnw er mwyn deall sut y bydd yn rheoli'r cynnydd tebygol mewn ceisiadau yn agos at y terfynau amser, er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff sy'n rhan o'r etholiad a'r broses o reoli ymholiadau yn meddu ar ddealltwriaeth glir ac y gallant hysbysu etholwyr yn briodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am brosesu ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol yn y cyfnod cyn etholiad yn y canllawiau Cynnal y broses cofrestru etholiadol ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr, ac adran Pleidleisio absennol ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.

Derbyn pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor

Dim ond pobl sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan all dderbyn pleidleisiau post a ddychwelir atoch â llaw. Dylech ystyried a fyddwch yn awdurdodi staff cymorth ychwanegol i helpu i dderbyn pleidleisiau post wedi'u cwblhau a ddychwelir gan aelodau o'r cyhoedd i swyddfeydd y cyngor.

Dylech gadw cofnod o'r bobl yr ydych wedi'u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan a derbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd â llaw.

Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y weithdrefn i'w dilyn pan fydd pleidleisiau post yn cael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2025