Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Mae arolygwyr gorsafoedd pleidleisio yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli’r pleidleisio yn effeithiol. Maent yn darparu cyswllt cyfathrebu hanfodol rhyngoch chi a staff eich gorsaf bleidleisio, gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau a phroblemau sy’n codi mewn gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Dylech benodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i ymweld â gorsafoedd pleidleisio a’u harolygu ar eich rhan ar ddiwrnod yr etholiad. Wrth benderfynu ar ddyraniad arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i fannau pleidleisio, dylech ystyried:
- daearyddiaeth yr ardal a'r pellter teithio rhwng y mannau pleidleisio
- nifer y gorsafoedd pleidleisio ym mhob man bleidleisio
- profiad staff y gorsafoedd pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio
- lefelau pleidleiswyr disgwyliedig ac unrhyw amgylchiadau lleol penodol
- nifer yr ymweliadau y bydd disgwyl i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio eu gwneud â phob gorsaf bleidleisio yn ystod y dydd
Dyletswyddau arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio sicrhau bod pob un o’u gorsafoedd pleidleisio dynodedig:
- wedi'u gosod yn briodol mewn ffordd sy'n ystyried anghenion pleidleiswyr ac yn cyfrannu at sicrhau bod yr orsaf bleidleisio yn rhedeg yn esmwyth
- yn cynnwys yr holl gyfarpar ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr
- yn bodloni eich disgwyliadau o ran gwasanaeth i bleidleiswyr
Dylai’r arolygydd gorsafoedd pleidleisio weithio gyda’r Swyddogion Llywyddu a staff eraill yr orsaf bleidleisio i ganfod unrhyw broblemau sy’n codi drwy gydol y diwrnod pleidleisio ac ar ddiwedd y pleidleisio, ac ymdrin â nhw, a dylai uwchgyfeirio unrhyw broblemau i chi fel sy'n briodol.
Dylai bod gennych chi broses ar waith i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyfathrebu unrhyw addasiadau i’r gofrestr a cheisiadau dirprwy brys. Dylech chi hysbysu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio o’u rôl yn hyn o beth, os oes ganddynt rôl o gwbl.
I ddechrau, dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio geisio ymweld â’u holl orsafoedd pleidleisio dynodedig cyn gynted â phosibl er mwyn gallu eich sicrhau bod pob gorsaf wedi agor yn brydlon a’u bod yn gweithredu’n effeithiol.
Gallai’r ymweliadau cychwynnol hyn gael eu rhagflaenu gan ohebiaeth ar wahân a anfonir gan y Swyddogion Llywyddu at eu harolygwyr gorsafoedd pleidleisio, cyn agor y bleidlais. Er enghraifft, gellid rhoi gwybod i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio drwy neges destun a yw'r orsaf bleidleisio wedi’i gosod ac yn barod i’w hagor, ac a oes unrhyw broblemau. Dylai bod hyn yn helpu'r arolygydd gorsafoedd pleidleisio i flaenoriaethu ei ymweliadau.
Gellir defnyddio ymweliadau dilynol drwy gydol y dydd at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys:
- casglu pleidleisiau post
- ateb unrhyw gwestiynau sydd gan staff gorsafoedd pleidleisio
- gwirio bod pob hysbysiad yn parhau i gael eu dangos yn briodol
- danfon unrhyw offer sydd ar goll neu offer ychwanegol sydd ei angen
Cyfarwyddiadau ar gyfer arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Dylech roi cyfarwyddiadau clir i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio am eu rôl a rhestr wirio o dasgau y dylent eu cyflawni a’u cwblhau yn ystod eu hymweliadau â gorsafoedd pleidleisio. Mae’r rhestr wirio hon hefyd yn cynnwys rhestr o’r hyn y dylai pob arolygydd gorsafoedd pleidleisio ei gael cyn y diwrnod pleidleisio.
Gellir defnyddio rhestrau gwirio wedi’u llenwi hefyd fel sail i werthusiad o addasrwydd gorsafoedd pleidleisio fel rhan o’r broses adolygu ar ôl yr etholiad. Mae copi o’r rhestr wirio i’w hargraffu a’i defnyddio yn ein hadran cynllunio adnoddau’r etholiad.