Dylech baratoi rhestr o staff y gallwch gysylltu â nhw a all gamu i rôl pe na bai unigolyn ar gael – er enghraifft, oherwydd salwch. Dylai’r rhestr gynnwys staff a fyddai’n gallu gweithio ar fyr rybudd.
Er nad yw penodi staff wrth gefn bob amser yn ymarferol nac yn ddichonadwy o fewn eich cyllideb, dylech allu defnyddio staff yn hyblyg ar ddiwrnod yr etholiad i ymateb i faterion penodol a allai godi.
Efallai y byddwch hefyd yn dymuno cylchdroi staff a benodir yn eich gorsaf bleidleisio i ymgymryd â rolau gwahanol yn ystod y dydd.
Gallech ystyried penodi Clercod Pleidleisio rhan amser i ddarparu cymorth yn ystod oriau prysuraf disgwyliedig yr etholiad neu yn y cyfnod cyn 10pm. Efallai y byddwch hefyd yn ystyried penodi tîm staff gorsaf bleidleisio wrth gefn i’w defnyddio yn ystod adegau prysur mewn gorsafoedd pleidleisio penodol neu i ymateb i faterion penodol a allai godi drwy gydol y diwrnod pleidleisio neu wrth gau’r pleidleisio. Os nad yw’n hawdd cyrraedd rhannau o’r etholaeth, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gael timau mewn gwahanol rannau o’r etholaeth.
Er mwyn gallu lleoli staff yn hyblyg ar y diwrnod pleidleisio, bydd angen i chi hyfforddi staff yn briodol. Dylech hyfforddi Clercod Pleidleisio a Swyddogion Llywyddu mewn ffordd sy’n sicrhau bod gan y naill a’r llall y wybodaeth dechnegol i gyflawni rolau ei gilydd os oes angen ac i’r graddau y mae’r gyfraith yn caniatáu hynny.
Dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gael yr un hyfforddiant â staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn iddynt allu cael eu defnyddio’n hyblyg a chyflawni dyletswyddau gorsaf bleidleisio os oes angen. Dylech hefyd ddarparu briff ychwanegol ar gyfer arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, sy’n ymdrin ag eitemau sy’n benodol i’w rôl.