Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Penodi staff ar gyfer anfon ac agor pleidleisiau post
Dylech nodi gofynion staffio ar gyfer anfon pleidleisiau post a sesiynau agor pleidleisiau post. Efallai y bydd angen y staff canlynol:
- staff goruchwylio sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig
- staff gweinyddol
- staff TG
Rhaid i chi beidio â phenodi unrhyw un sydd wedi cael ei gyflogi gan neu ar ran ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol yn yr etholiad neu ynghylch yr etholiad.1
Dylech chi gadw mewn cof y pwysau amser y gall y gwaith o gyflenwi ac agor pleidleisiau post ei roi ar staff craidd wrth i chi ystyried eich anghenion o ran staffio.
Staffio ar gyfer anfon pleidleisiau post
Bydd angen nifer o sesiynau ychwanegol ar gyfer anfon pleidleisiau post yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio i nodi’r rheini sydd wedi gwneud cais ar gyfer pleidlais bost ac i gofrestru cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Bydd angen i chi ystyried sut i reoli hyn, gan sicrhau bod modd anfon pleidleisiau drwy’r post at etholwyr cyn gynted â phosibl.
Dylech hefyd ystyried cyfanswm nifer y pleidleisiau post cyfredol a chyfanswm nifer y pleidleisiau post a ragwelir wrth benderfynu ar eich trefniadau staffio, yn ogystal â’r potensial am ymgysylltu a diddordeb hwyr yn yr etholiadau, pan fydd y cwmpas ar gyfer addasu cynlluniau yn gyfyngedig. Dylech gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd nifer uchel yn pleidleisio ond dylech dybio fan leiaf na fydd nifer y pleidleiswyr drwy’r post yn llai na nifer y pleidleiswyr post yn yr etholiad cyfatebol diwethaf. Bydd eich adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol diweddar yn rhoi syniad i chi o ba mor gadarn oedd eich rhagdybiaethau staffio blaenorol.
Efallai y bydd angen i chi ddiwygio’r asesiad hwn ar ôl i chi gael y rhestrau terfynol o bleidleiswyr post gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Dylech gynnwys digon o hyblygrwydd a threfniadau wrth gefn yn eich trefniadau staffio i ddelio â chynnydd munud olaf yn nifer y pleidleiswyr post, cynnydd annisgwyl yn nifer y bobl sy’n pleidleisio, neu niferoedd amrywiol o bleidleisiau post sy’n cael eu dychwelyd ar wahanol ddiwrnodau. Er enghraifft, os oes yna ddadleuon yn cael eu darlledu ar y teledu, gall hyn gael effaith ar batrwm a nifer y cofnodion a dylai fod hyn yn rhan o’ch ystyriaethau wrth bennu’ch anghenion staffio. Mae angen i’ch trefniadau hefyd fod yn rhai sy’n golygu y gallwch chi sicrhau eich bod yn gallu rheoli’r rhai sy’n cael eu danfon i orsafoedd pleidleisio yn effeithiol ar ddiwrnod yr etholiad.
Rheoli Contractwyr
Os byddwch yn penderfynu rhoi’r holl broses neu ran o’r broses o anfon pleidleisiau post ar gontract allanol, dylech ddynodi aelod o’r tîm prosiect i fonitro gwaith sy’n cael ei gontractio allan ac yn benodol i fynychu’r rhannau hynny o’r broses gyflenwi sydd wedi cael eu contractio allan. Dylai’r unigolyn hwn fonitro gwaith y contractwr, a ddylai gynnwys cyflawni tasgau fel:
- hapwirio i sicrhau nad yw gwaith papur y pleidleisiau post yn cynnwys unrhyw wallau
- gwirio bod y pecynnau pleidleisiau post yn cael eu rhoi at ei gilydd yn gywir
- sicrhau bod unrhyw bleidleisiau post y mae angen iddynt fynd dramor yn cael eu blaenoriaethu
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ynghylch rheoli contractwyr a chyflenwyr.
Staffio ar gyfer agor pleidleisiau post
Bydd eich penderfyniad ar sut y caiff dynodwyr personol eu dilysu, gan gynnwys faint o’r broses hon sy’n cael ei hawtomeiddio a faint ohoni y mae angen ei gwneud â llaw, yn effeithio ar nifer y staff y bydd eu hangen arnoch ar gyfer agor pleidleisiau post a ddychwelir. Rhaid i chi gael trefniadau ar waith i allu gwirio 100% o ddynodwyr pleidleisiau post.2
Etholaethau trawsffiniol
Yn achos etholaeth sy'n cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, gall sesiynau agor pleidleisiau post fod yn digwydd mewn mwy nag un lleoliad yn yr etholaeth. Dan yr amgylchiadau hyn, gall dirprwyon penodedig o awdurdodau lleol eraill nodi a darparu staff fel sy'n briodol.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ynghylch y broses agor pleidleisiau post.
- 1. Erthygl 73, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 23, Atodlen 2, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2