Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Costau cludiant

Mae'n cynnwys cost cludo ar gyfer yr asiant lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ei ad-dalu.

Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr

Mae'n cynnwys cost cludo:

  • gwirfoddolwyr
  • aelodau o'r blaid, gan gynnwys aelodau o staff
  • ymgyrchwyr eraill 

o gwmpas yr ardal etholiadol, neu i'r ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:

  • tocynnau ar gyfer unrhyw gludiant, gan gynnwys unrhyw ffi archebu
  • llogi unrhyw gludiant 
  • tanwydd neu drydan a brynir ar gyfer unrhyw gludiant
  • parcio ar gyfer unrhyw gludiant

lle maent yn ymgyrchu ar ran yr ymgeisydd.

Mae'n cynnwys cost cludiant y telir amdano gan unrhyw unigolyn, plaid wleidyddol neu drydydd parti arall ac y bydd yr ymgeisydd, y blaid wleidyddol neu drydydd parti yn ei thalu neu'n ei had-dalu, lle roedd yr unigolion a oedd yn cael eu cludo yn ymgyrchu neu'n ymgymryd â gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch ar ran yr ymgeisydd.

Cludiant i ddigwyddiad

Mae'n cynnwys costau cludo'r rhai sy'n mynd i ddigwyddiad sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.

Cludiant sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd 

Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd, gan gynnwys unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â:

  • dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant 
  • gyrru neu symud cerbyd o amgylch ardal etholiadol benodol 
  • ffioedd parcio lle defnyddir cerbyd i arddangos deunydd

Costau sydd wedi'u heithrio

Mae'r costau canlynol wedi'u heithrio:

  • lle telir y gost gan yr unigolyn a ddefnyddiodd y cludiant ac na chaiff y taliad hwnnw ei ad-dalu
  • lle darperir y cludiant yn ddi-dâl gan unrhyw unigolyn arall os cafodd y dull cludo ei gaffael gan y person hwnnw yn bennaf at ei ddefnydd personol ei hun 

Mae 'treuliau personol' yn cynnwys treuliau teithio rhesymol yr ymgeisydd mewn perthynas â'r etholiad.

Lle bydd cost cludiant ar draul bersonol yr ymgeisydd, ni fydd hyn yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant. Rhaid ei chofnodi fel traul bersonol yn y ffurflen gwariant. Ceir rhagor o wybodaeth yn Treuliau personol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Rhagfyr 2023