Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Costau staff

Costau asiantiaid 

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gydnabyddiaeth, gan gynnwys lwfansau, a delir i'r asiant.  

Staff a gyflogir gan blaid wleidyddol

Mae'n cynnwys cost unrhyw aelod o staff plaid wleidyddol sy'n

  • darparu gwasanaethau i'r ymgeisydd sydd at ddibenion ethol yr ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, neu 
  • darparu gwasanaethau i'r ymgeisydd sydd at ddiben ethol yr ymgeisydd cyn y cyfnod hwnnw a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir
     

Examples

Enghraifft A

Mae aelod o staff plaid wleidyddol yn treulio ei oriau gwaith â thâl yn cydlynu gwaith ymgyrchu gwirfoddolwyr ar gyfer ymgeisydd mewn ardal etholiadol benodol. Ystyrir bod ei amser gwaith at ddibenion etholiad yr ymgeisydd.

Os caiff ei ddarparu i'r ymgeisydd a'i ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna rhaid i gostau talu'r aelod hwnnw o staff ymddangos ar ffurflen yr ymgeisydd fel gwariant tybiannol (os yw'r gwerth yn fwy na £50).

Os na chaiff ei ddarparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd.

Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau hyn o wariant yn Gwariant tybiannol ac Ymgyrchu lleol.

Enghraifft B

Mae aelod o staff plaid wleidyddol yn treulio ei oriau gwaith â thâl ar nifer o weithgareddau ymgyrchu gwahanol, gan gynnwys hyrwyddo'r blaid yn gyffredinol a hyrwyddo ymgeisydd penodol. Ystyrir bod y gyfran o'i amser gwaith a dreulir yn hyrwyddo'r ymgeisydd at ddibenion ethol/etholiad yr ymgeisydd hwnnw.

Os caiff ei ddarparu i'r ymgeisydd a'i ddefnyddio gan neu ar ran yr ymgeisydd, yna rhaid i'r gyfran honno o gostau talu'r aelod hwnnw o staff ymddangos yn ffurflen yr ymgeisydd fel gwariant tybiannol.

Os na chaiff ei ddarparu i'r ymgeisydd ac na wneir defnydd ohono gan neu ar ran yr ymgeisydd, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol ar gyfer yr ymgeisydd.

Enghraifft C

Mae nifer o ymgeiswyr yn bresennol mewn sesiwn friffio ar addewidion maniffesto'r blaid a gynhelir gan staff y blaid a delir. Gan fod y pwyslais ar addewidion maniffesto'r blaid genedlaethol, nid ystyrir bod y sesiwn friffio at ddibenion eu hethol fel ymgeiswyr.

Felly nid oes angen cynnwys gwariant yn ffurflenni'r ymgeisydd.
 

N/A

Staff sy'n monitro cyfryngau cymdeithasol a gweithgareddau eraill sy'n ymwneud â'r wasg

Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli a monitro'r cyfryngau cymdeithasol a chael data er mwyn targedu gweithgarwch ymgyrchu. Mae hyn yn cynnwys cyflogi staff i ddadansoddi a didoli'r data a chost staff i fonitro unrhyw fath o gyfrwng cymdeithasol neu gyfrif arall, ac i gyhoeddi ar gyfryngau o'r fath neu ymateb iddynt.

Mae'n cynnwys cost staff sy'n ymwneud â rheoli gweithgareddau gyda'r wasg o unrhyw fath, gan gynnwys staff sy'n cydgysylltu ag unrhyw fath o weithgarwch yn y cyfryngau drwy unrhyw ddull, neu ei reoli neu ei fonitro mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd.

Unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau

Mae'n cynnwys cost unrhyw un arall lle defnyddir ei wasanaethau mewn cysylltiad ag ethol yr ymgeisydd. 

Amser gwirfoddolwyr

Nid yw'n cynnwys cost gwasanaethau asiant nac unrhyw berson arall sy'n gwirfoddoli.

Nid oes angen i chi ychwaith gynnwys costau teithio, bwyd na llety pobl tra byddant yn ymgyrchu ar eich rhan, os byddant yn talu'r costau eu hunain.

Fodd bynnag, bydd unrhyw dreuliau rydych yn eu talu, neu'n eu had-dalu, fel cludiant neu lety, yn cyfrif fel gwariant.

Weithiau, efallai na fyddwch yn siŵr a yw rhywun sy'n gweithio dros eich ymgyrch yn wirfoddolwr neu a ddylech gyfrif ei amser tuag at eich terfyn gwariant. Er enghraifft, efallai fod yr unigolyn yn cynnig gwasanaethau tebyg yn broffesiynol i'r rhai y mae'n eu cyflawni i chi.

Er enghraifft, bydd yn wirfoddolwr:

  • os na fydd ei gyflogwr yn talu am yr amser a dreulir ganddo ar eich ymgyrch
  • os bydd yn defnyddio ei wyliau blynyddol
  • os bydd yn hunangyflogedig, ni fyddwch yn elwa ar unrhyw yswiriant proffesiynol sydd ganddo

Os bydd yn defnyddio cyfarpar neu ddeunyddiau arbenigol, mae'n debygol y bydd hyn yn wariant tybiannol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023