Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Hysbysebion o unrhyw fath
Costau cyffredinol
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd ar gyfer hysbyseb
- lledaenu deunydd hysbysebu drwy ddosbarthu neu fel arall
Example
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysbeu.
Software
Meddalwedd
Mae'n cynnwys cost meddalwedd o unrhyw fath i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais i:
- ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu
p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
Example
Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.
Services, facilities and equipment
Gwasanaethau, cyfleusterau a chyfarpar
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu digidol neu electronig
- dosbarthu neu hwyluso'r broses o ledaenu'r deunydd hysbysebu hwnnw mewn unrhyw ffordd
gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Example
Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.
Websites and other digital material
Gwefannau a deunydd digidol arall
Mae'n cynnwys costau:
- lletya a chynnal gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo'r ymgeisydd
- dylunio ac adeiladu'r wefan
- cyfran o unrhyw wefan neu ddeunydd sy'n cael ei sefydlu i godi arian ar gyfer yr ymgeisydd ond sydd hefyd yn hyrwyddo'r ymgeisydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir
Deunydd i'w rannu
Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:
- i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gan bobl eraill
- i'w rannu ar unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol neu i hyrwyddo'r ymgeisydd drwy ddull o'r fath
Example
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r ymgeisydd a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.
Downloadable material
Deunydd y gellir ei lawrlwytho
Os byddwch yn rhoi deunydd ar wefan i bobl ei argraffu at eu defnydd personol, fel posteri ffenestr neu ffurflenni deiseb, bydd y costau dylunio a chostau'r wefan yn cyfrif fel gwariant ymgeisydd. Nid oes angen i chi gyfrif costau argraffu pobl yn erbyn eich terfyn gwariant, oni bai bod pobl yn argraffu dogfennau ar eich rhan.
Os gallai'r deunydd gael ei argraffu a'i ddosbarthu i bleidleiswyr – er enghraifft, taflen – bydd angen i chi esbonio sut rydych yn disgwyl i bobl ei ddefnyddio.
Os byddwch yn awdurdodi defnydd ehangach o'r deunydd, gall y costau cynhyrchu gyfrif fel gwariant ymgeisydd ni waeth pwy sy'n ei argraffu.
Rhwydweithiau
Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:
- hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd hysbysebu drwy unrhyw ddull
- hyrwyddo deunydd hysbysebu neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Example
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol a ddefnyddir i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.
Other costs that are included
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd hysbysebu.
Mae'n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd hysbysebu yn cael ei argraffu arno
- arddangos hysbysebion yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri
Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:
- cyfarpar llungopïo
- cyfarpar argraffu
a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:
- cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
- mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio
Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:
- pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd hysbysebu
- lledaenu'r deunydd hysbysebu drwy ei ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â deunydd hysbysebu i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.