Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
safle neu gyfleusterau
cyfarpar
a ddefnyddir i:
hyrwyddo cyfarfod cyhoeddus
cynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Costau eraill o dan gyfarfodydd cyhoeddus
Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r digwyddiad, drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost digwyddiad sy'n cael ei gynnal drwy ddolen o unrhyw fath neu sy'n cael ei ffrydio'n fyw neu ei ddarlledu, lle mae'r digwyddiad hwnnw yn agored i'w weld gan ddefnyddwyr sianel neu lwyfan neu drwy ddull arall.
Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.
Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw gyfarpar mewn perthynas â:
cynnal cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo'r ymgeisydd
ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Mae'n cynnwys cost llety a threuliau eraill i unrhyw un sy'n bresennol lle mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn ad-dalu'r gost honno neu'n talu'r gost honno.
Costau nad oes angen i chi eu cynnwys
Nid oes angen i chi gynnwys:
digwyddiadau a gynhelir i aelodau'ch plaid yn unig
digwyddiadau a gynhelir yn bennaf at ddibenion ac eithrio'ch ymgyrch, lle mae'ch presenoldeb yn gysylltiedig – er enghraifft, digwyddiad cymdeithasol blynyddol lle rydych yn dweud ychydig o eiriau
Dylech wneud asesiad gonest yn seiliedig ar y ffeithiau ynghylch a yw'r cyfarfod wir yn cael ei gynnal at ddibenion eraill.
Efallai y cewch eich gwahodd i hustyngau a gynhelir gan sefydliadau lleol neu grwpiau cymunedol hefyd. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar wahân ar hustyngau sy'n esbonio pryd y bydd y rheolau ynglŷn â gwariant yn gymwys i'r digwyddiadau hyn o bosibl.