Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Deunydd a anfonir at etholwyr yn ddigymell

Costau sy'n gysylltiedig â chael gwybodaeth a thargedu neu nodi pleidleiswyr, gan gynnwys costau cronfeydd data

Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:

  • meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
  • unrhyw wybodaeth, drwy ba ddull bynnag

a ddefnyddir i hwyluso'r broses o anfon deunydd digymell at bleidleiswyr.

Example

Er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost i dargedu pleidleiswyr

N/A

Mae'n cynnwys cost cyrchu, cael neu ddatblygu setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag. 

Example

Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardal etholiadol benodol a chost modelu gan asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.

N/A

Mae'n cynnwys cost unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir.

Lle ceir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth gan drydydd parti, gan gynnwys plaid wleidyddol, mae cost fasnachol cael y wybodaeth honno gan y trydydd parti wedi'i chynnwys. 

Costau sy'n gysylltiedig â pharatoi, cynhyrchu neu ddosbarthu deunydd digymell i bleidleiswyr, gan gynnwys drwy ddulliau digidol

Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:

  • asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
  • safle neu gyfleusterau
  • cyfarpar

a ddefnyddir i:

  • baratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell 
  • lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall, gan gynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y deunydd yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull

Mae'n cynnwys cost dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig neu ddosbarthu'r deunydd yn ffisegol. 
 

Example

Er enghraifft, cost amlenni a stampiau neu brynu system ar gyfer anfon negeseuon e-bost. 

N/A

Mae'n cynnwys cost cyrchu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n hyrwyddo deunydd digymell ar unrhyw lwyfan neu sy'n ei wneud yn fwy gweladwy ar unrhyw lwyfan. 

Example

Er enghraifft, ymgeisydd yn talu datblygwr i greu ap sy'n hwyluso'r broses o dargedu ei ddeunydd ar sianel cyfryngau cymdeithasol.

N/A

Mae'n cynnwys cost goruchwylio a chynnal pob cyfrwng cymdeithasol, dull digidol neu ddulliau eraill o ddosbarthu deunydd digymell. Mae hyn yn cynnwys cynnal pob cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys os yw'n cael ei gynnal gan endid/unigolyn arall.

Costau eraill sydd wedi'u cynnwys 

Mae'n cynnwys cost unrhyw hawliau neu ffi drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunydd digymell.

Mae'n cynnwys cost papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd digymell yn cael ei argraffu arno.

Mae'n cynnwys cost prynu, llogi neu ddefnyddio:

  • cyfarpar llungopïo 
  • cyfarpar argraffu

a ddefnyddir yn ystod ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd, heblaw lle:

  • cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr ymgeisydd yn bennaf at ddefnydd personol yr ymgeisydd ei hun
  • mae'n cael ei ddarparu gan unigolyn arall, cafodd y cyfarpar ei gaffael gan yr unigolyn hwnnw at ei ddefnydd personol ei hun ac ni chodir tâl ar yr ymgeisydd i'w ddefnyddio 

Lle mae papur, cyfarpar llungopïo neu argraffydd yn cael ei brynu neu ei logi i'w ddefnyddio'n bennaf yn ystod yr ymgyrch, mae'n rhaid rhoi gwybod am y gost lawn.

Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar arall mewn perthynas â:

  • pharatoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu'r deunydd digymell 
  • lledaenu'r deunydd digymell drwy ei ddosbarthu neu fel arall

Mae'n cynnwys cost bwyd neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaeth mewn cysylltiad â deunydd digymell i'r ymgeisydd y mae'r ymgeisydd, plaid yr ymgeisydd neu drydydd parti arall yn talu amdano neu'n ei ad-dalu.

Costau sydd wedi'u heithrio

Nid yw'n cynnwys unrhyw gost sy'n gysylltiedig â chael data fel y'i caniateir drwy statud neu reoliad.
 

Example

Er enghraifft, mae gan ymgeiswyr yr hawl i gael copi o'r gofrestr etholiadol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023