Darparu copïau o'r gofrestr lawn a dogfennau cysylltiedig i unigolion a sefydliadau penodol
Darparu copïau o'r gofrestr lawn a dogfennau cysylltiedig i unigolion a sefydliadau penodol
Dim ond i'r unigolion a'r sefydliadau hynny a bennir yn y ddeddfwriaeth y gellir darparu copïau o'r gofrestr lawn, unrhyw hysbysiadau o newid a'r rhestr o etholwyr tramor.1
Mae gan rai o'r rhain yr hawl i gael y canlynol:
copïau am ddim heb gais
copïau am ddim ar gais
copïau drwy dalu ffi ragnodedig.
Ym mhob achos, cyn darparu'r gofrestr, bydd angen i chi fod yn fodlon bod gan yr unigolyn neu'r sefydliad sy'n gwneud y cais yr hawl i gael copi ohoni.
Rydym wedi cyhoeddi rhestr, er gwybodaeth, o'r rhai sydd â hawl i gael copi o'r gofrestr a dogfennau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys pwy sydd â hawl i gael y dogfennau hyn, ar ba sail ac ym mha fformat. Mae hefyd yn cynnwys manylion cyswllt lle y bo'n berthnasol.
Y tu hwnt i'r rhai a restrir yn benodol mewn deddfwriaeth, dim ond i gorff neu sefydliad sydd â hawl drwy ddeddfiad i gael copi o'r gofrestr etholiadol y gellir ei roi ar gais. Dylech ystyried y deddfiad a ddyfynnir gan yr ymgeisydd ac, os byddwch yn fodlon bod y deddfiad yn rhoi'r pŵer i'r unigolyn hwnnw gael copi o'r gofrestr lawn, dylech ei ddarparu. Enghraifft bosibl o ddeddfiad yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992, y mae Rheoliad 4 ohonynt yn caniatáu i awdurdod bilio gael enw a chyfeiriad (gan gynnwys cyfeiriad blaenorol) gan Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Dim ond Swyddogion Cofrestru Etholiadol a'u staff fydd yn gallu cael gafael ar ddata yn ymwneud ag unigolion dan 16 oed, neu eu defnyddio, ac ni ddylai unrhyw fersiwn o'r gofrestr nac unrhyw restrau pleidleisio absennol a gyhoeddir neu a ddarperir fel arall gynnwys y data hynny.