Annog pobl eraill i ledaenu'r neges (sylw am ddim yn y cyfryngau)
Annog pobl eraill i ledaenu'r neges (sylw am ddim yn y cyfryngau)
Drwy fynd ati i weithio gyda'r cyfryngau, mae gennych fwy o ddylanwad dros y mathau o negeseuon a gyfleuir ganddynt.
Bydd y negeseuon a glywir gan bobl yn y wasg ac ar y newyddion yn effeithio ar ba mor debygol ydyw y byddant yn cofrestru. Mae gweithgarwch cysylltiadau â'r cyfryngau yn cynnig cyfle i chi gynnwys eich neges ar yr agenda newyddion a chodi proffil eich gwaith.
Nid oes modd i chi reoli barn y cyhoedd, ond gallwch rannu negeseuon sy'n fwy tebygol o roi sicrwydd i bobl a lleihau sylw negyddol a allai atal pobl rhag cofrestru.
Ymhlith y gweithgarwch a awgrymir mae'r canlynol:
cyhoeddi datganiadau i'r wasg cyn digwyddiadau allweddol, megis dechrau'r canfasiad blynyddol