Annog y cyhoedd i weithredu

Annog y cyhoedd i weithredu

Os mai nod yr ohebiaeth a lunnir gennych yw annog pobl i weithredu, mae galwad i weithredu yn hollbwysig i'w llwyddiant.  Datganiad yw galwad i weithredu sy'n nodi'r hyn rydych eisiau i'r gynulleidfa ei wneud nesaf – er enghraifft, cofrestru ar-lein. Hebddi, ni fydd pobl yn deall yr hyn y dylent ei wneud neu, os nad yw'n glir neu os caiff ei chuddio yng nghanol gwybodaeth arall, efallai y caiff ei hanwybyddu. 

Dylai galwadau i weithredu: 

  • gael eu hysgrifennu'n gryno a nodi'n glir yr hyn y dylai pobl ei wneud
  • defnyddio iaith gyfarwyddol weithredol (Mae ‘I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.bigtown.org.uk’ yn well na 'gall partïon â diddordeb ddod o hyd i ragor o fanylion perthnasol ar wefan y Cyngor’) 
  • bod yn weledol amlwg yn y ddogfen – er enghraifft, mewn testun mawr a lliw gwahanol gyda gofod o'u hamgylch er mwyn tynnu sylw pobl atynt 

Yn flaenorol, cynhaliodd y Comisiwn waith ymchwil gyda'r cyhoedd, a arweiniwyd gan Ipsos Mori, er mwyn nodi'r negeseuon cyfathrebu gorau ar gyfer cymell ac annog pobl i weithredu. 

Dangosodd canfyddiadau'r gwaith ymchwil fod yr elfennau allweddol canlynol yn cymell pobl i weithredu: 

  • ‘Mae pleidleisio'n bwysig’ (nid yw llawer o bobl yn gwahaniaethu rhwng pleidleisio a chofrestru) 
  • osgoi colli allan (yr ensyniad y byddwch yn colli allan ar rywbeth os na fyddwch yn cofrestru)

Mae amseru yn hanfodol wrth sicrhau na fydd pobl yn dod mor gyfarwydd â chael negeseuon fel y byddant yn eu hanwybyddu, felly efallai y byddwch am ystyried cyfyngu ar y defnydd a wneir o rai sianeli i'r cyfnodau pan fyddant yn cael yr effaith fwyaf. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021