Defnyddio hysbysebion y telir amdanynt

Defnyddio hysbysebion y telir amdanynt

Fel arfer, caiff cyfryngau eu prynu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd cyn y disgwylir i ymgyrch fynd yn fyw. 

Bydd angen i chi gynnal trafodaethau yn gynnar er mwyn pennu dyddiadau cau ar gyfer prynu cyfryngau hysbysebu, a chyflenwi gwaith celf. Mae'n debygol y bydd gofynion technegol hefyd ar gyfer cyflenwi gwaith celf.
 
Gallwch brynu safleoedd unigol gan berchenogion cyfryngau, neu weithio gydag asiantaeth prynu cyfryngau i ddewis y cyfryngau gorau i gyflawni eich amcanion a chyrraedd cynulleidfaoedd targed. 

Beth yw'r sianeli a phwy y gallent gyrraedd?

  • Radio – mae'n cyrraedd preswylwyr sydd ar  incwm is ac oedolion ifanc, yn ogystal â'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy gwledig; bydd gorsafoedd priodol yn cyrraedd segmentau penodol o'r gynulleidfa
  • Ar-lein – llai defnyddiol ar gyfer cartrefi incwm is; mae'n cyrraedd y rhai o dan 24 oed a myfyrwyr yn benodol drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Y ffordd orau o dargedu grwpiau penodol
  • Papur newydd – y potensial i gyrraedd preswylwyr sydd ar incwm is, yn enwedig teitlau penodol
  • Cylchgronau / cylchlythyrau – maent yn targedu ardaloedd lleol neu grwpiau cymunedol penodol
  • Hysbysebion golygyddol (erthyglau hyrwyddol) ar gyfer y wasg leol a gwefannau – gellid eu defnyddio i roi gwybodaeth fanylach
  • Awyr agored – yn ddefnyddiol i gyrraedd cynulleidfaoedd targed drwy leoli hysbysebion mewn ardaloedd poblog lle mae nifer fawr o ymwelwyr; potensial i gyrraedd myfyrwyr; gall nifer fawr o bobl eu gweld ar fyrddau poster a bysiau 
  • Faniau hysbysebu symudol – gallant fod yn gyfrwng i gyfleu negeseuon mewn ardaloedd daearyddol sydd â dwysedd uchel o'ch cynulleidfa darged
  • Noddi digwyddiadau – potensial i gyrraedd pobl ifanc a chymunedau BME

Beth yw'r ystyriaethau eraill wrth ddefnyddio hysbysebion y telir amdanynt?

Mae prynu gofod hysbysebu yn gostus felly dylech ystyried y ffactorau canlynol:  

  • Cyfanswm cyrhaeddiad – nifer y bobl berthnasol y disgwyl iddynt weld neges hysbysebwr o leiaf unwaith o fewn cyfnod penodol
  • Amlder – sawl gwaith y bydd aelod o'r gynulleidfa yn gweld neges o fewn y cyfnod penodol
  • Cost – Y gost sy'n gysylltiedig â chyrraedd mil o bobl neu eich marchnad darged

Wrth bennu'r cyrhaeddiad a'r amlder, efallai y byddwch am ystyried, er enghraifft, a fyddai llai o hysbysebion ar orsaf radio mawr yn well na llawer o hysbysebion ar orsaf radio bach, a ph'un a fyddai ymgyrch undydd â chyrhaeddiad uchel mewn papur newydd lleol yn well nag ymgyrch â chyrhaeddiad isel mewn cylchgrawn cymunedol misol. 

Meddyliwch yn ofalus am eich cynulleidfaoedd targed cyn derbyn unrhyw gynigion arbennig gan berchenogion cyfryngau. Gofynnwch pam mae'r pris wedi'i ostwng – efallai nad oes prawf bod y gofod yn gallu cyrraedd eich cynulleidfa. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021