Defnyddio sianeli cyfryngau sy'n eiddo i awdurdodau lleol
Defnyddio sianeli cyfryngau sy'n eiddo i awdurdodau lleol
Dylech barhau i ystyried ble mae'r lleoedd gorau i ddangos eich hysbysebion. Gall prynu cyfryngau (gofod hysbysebu) fel safleoedd posteri awyr agored a hysbysebion yn y wasg fod yn ddrud iawn. Efallai na fydd modd defnyddio opsiynau rhatach fel cylchlythyrau cymunedol neu gylchgronau rhestru lleol ychwaith.
Fodd bynnag, efallai y bydd ystod o sianeli sy'n eiddo i'r awdurdod lleol ar gael i chi, er enghraifft:
cylchgrawn i breswylwyr yr awdurdod lleol
cylchlythyrau staff mewnol
cerbydau sy'n eiddo i'r awdurdod lleol
safleoedd posteri sy'n eiddo i'r awdurdod lleol
adeiladau'r awdurdod lleol
arosfannau bysiau a byrddau poster
hysbysfyrddau
sianeli cyfryngau cymdeithasol
Dylech gynnal archwiliad o gyfryngau posibl sy'n eiddo i'r awdurdod lleol ac ystyried pob opsiwn a pha mor aml y gellid ei ddefnyddio. Bydd hyn yn eich helpu i nodi faint o'ch cynulleidfa darged fyddai'n cael ei hamlygu i'r gweithgarwch a sawl gwaith y byddai hynny'n digwydd.
Dylech sicrhau bod unrhyw wybodaeth yn gyfredol ac yn berthnasol ac nad oes unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud ers y tro diwethaf i'r gweithgareddau gael eu cynnal.
Sut y gallwn ddefnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol?
Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, YouTube, Google+ ac eraill yn cynnig cyfle rhad i godi ymwybyddiaeth, a gallant gael eu defnyddio i ymateb i ymholiadau gan y cyhoedd.
Mae angen gwaith hyrwyddol parhaus er mwyn cynyddu'r niferoedd sy'n defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Mae negeseuon diddorol, doniol neu frys yn fwy tebygol o gael eu rhannu gan ddefnyddwyr a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Dylid postio negeseuon ar adegau allweddol, er enghraifft, ar ddechrau'r canfasiad, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl.
Ystyriwch sut y gallai digwyddiadau allanol fod yn sail ar gyfer gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, yn y gorffennol rydym wedi postio cyfres o drydariadau am gofrestru etholiadol ar 14 Chwefror sydd â thema Dydd San Ffolant.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cynnig cyfleoedd i chi weld effaith eich gwaith yn syth. Er enghraifft, sawl gwaith y caiff neges Facebook ei hoffi neu ei rhannu, neu pa mor aml y caiff trydariad ei aildrydar.
Fodd bynnag, mae gan y cyfryngau cymdeithasol gyfyngiadau hefyd – er enghraifft, mewn llawer o achosion, gall sianeli cyfryngau cymdeithasol gael eu cyfyngu i'r rhai sy'n ymgysylltu â'r awdurdod lleol eisoes.