Dylech ystyried cynnal digwyddiadau lle y deuir i gysylltiad â phobl, er enghraifft digwyddiad fel sioe deithiol neu stondin mewn canolfan siopa, er mwyn hybu ymwybyddiaeth. Gall gweithgareddau newydd mewn digwyddiadau cymunedol sefydledig dynnu sylw a gallwch eu hyrwyddo ymlaen llaw. Hysbyswch y wasg am ddigwyddiadau ymlaen llaw er mwyn eu hannog i fynychu a sicrhau mwy o sylw yn y cyfryngau.
Gall digwyddiadau a chyfleoedd i farchnata ar y stryd fod yn ddefnyddiol ar gyfer targedu grwpiau a dangynrychiolir drwy fynd â gwybodaeth iddynt.
Gallech gyflenwi posteri a thaflenni i dynnu sylw at eich stondin. Yna gellir casglu ffurflenni yn y fan a'r lle neu ddarparu cyfleusterau i wneud cais ar-lein. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ofyn ynghylch unrhyw beth nad ydynt yn ei ddeall.
Dangoswyd bod unigolyn yn fwy tebygol o weithredu os gall wneud hynny'n syth.
Meddyliwch am y lleoliadau sy'n rhoi cyfle i bobl gofrestru, yna rhowch wybodaeth yn y mannau hynny er mwyn cymell pobl i fynd ati i gofrestru.
Er enghraifft, efallai y byddwch am ddangos negeseuon atgoffa ar gyfrifiaduron llyfrgelloedd, mewn clybiau gwaith lle y darperir cyfrifiaduron ar gyfer llunio CVs, neu mewn dosbarthiadau am ddim sy'n addysgu sgiliau cyfrifiadura.