Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais i gofrestru'n ddienw?

Beth y mae'n rhaid ei gynnwys mewn cais i gofrestru'n ddienw? 

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais i gofrestru'n ddienw gynnwys y canlynol fel rhan o'u cais i gofrestru:1  

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • y cyfeiriad y mae'r ymgeisydd yn byw ynddo ar ddyddiad y cais ac y mae'n gwneud cais i gael ei gofrestru yno 
  • lle y gwneir cais i gofrestru'n ddienw gan unigolyn o dan 18 oed at ddibenion cofrestru ar y gofrestr llywodraeth leol, mae'n rhaid i'r cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd yn byw ar ddyddiad y cais ac y mae'n gwneud cais i gael ei gofrestru yno, fod yn gyfeiriad yng Nghymru
  • unrhyw gyfeiriad y rhoddodd yr ymgeisydd y gorau i fyw ynddo yn ystod y 12 mis cyn dyddiad y cais a, lle nad yw'r cyfeiriad hwnnw yn y DU, gwybodaeth yn nodi a oedd yr unigolyn hwnnw wedi'i gofrestru fel etholwr dramor yn ystod y cyfnod hwn
  • gwybodaeth yn nodi a yw'r ymgeisydd yn byw mewn unrhyw gyfeiriad arall, gan gynnwys unrhyw gyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru ar hyn o bryd ac y mae'n honni bod ganddo'r hawl i fod wedi'i gofrestru yno o hyd
  • dyddiad geni'r ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny a datganiad yn nodi a yw o dan 16 oed, yn 16 neu 17 oed neu'n 18 oed neu drosodd2 neu'n 76 oed neu'n hŷn. 
  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny. Nid yw hyn yn gymwys pan fydd yr ymgeisydd o dan 16 oed.
  • cenedligrwydd neu genedligrwyddau'r ymgeisydd neu, os na all roi'r wybodaeth hon, y rheswm pam na all wneud hynny
  • datganiad bod cynnwys y cais yn wir 
  • dyddiad y cais 
  • y ffaith bod cais i gofrestru'n ddienw yn cael ei gyflwyno gyda'r cais 

Mae'n rhaid i gais i gofrestru'n ddienw fod yn ysgrifenedig. Rhaid i'r ymgeisydd ei lofnodi a'i ddyddio ac mae'n rhaid iddo gynnwys y canlynol:3  

  • enw llawn a chyfeiriad yr ymgeisydd
  • y rheswm dros ei gais 
  • tystiolaeth i ategu ei gais (dogfen llys neu ardystiad fel y disgrifir isod)
  • os yw'r ymgeisydd yn rhywun sy'n byw yn yr un cartref â rhywun y byddai ei ddiogelwch mewn perygl, tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn byw yn yr un cartref â'r unigolyn hwnnw. Gallai'r dystiolaeth fod yn fil cyfleustodau, cyfriflen banc, trwydded yrru cerdyn-llun, ac ati.
  • os yw'r ymgeisydd yn rhywun sy'n byw yn yr un cartref â rhywun y byddai ei ddiogelwch mewn perygl, tystiolaeth y byddai diogelwch yr unigolyn hwnnw mewn perygl 
  • datganiad yn nodi: 
    • bod y dystiolaeth i ategu ei gais yn ddilys cyhyd ag y gŵyr yr ymgeisydd 
    • os mai rhywun sy'n byw yn yr un cartref ydyw, bod yr unigolyn y mae'r dystiolaeth yn ymwneud ag ef yn byw yn yr un cartref a, chyhyd ag y mae'n ei wybod, fod y dystiolaeth yn ddilys 
    • bod y wybodaeth arall a roddir yn wir 

Mae'n rhaid i'r ffurflen gais hefyd ddarparu gofod er mwyn nodi ei enw blaenorol diweddaraf (os yw'n berthnasol)4 ac esboniad nad yw darparu'r wybodaeth hon yn orfodol ond y gall helpu wrth ddilysu ei hunaniaeth ac os na chaiff ei darparu, ei bod yn bosibl y bydd angen gwybodaeth bersonol ychwanegol.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr allu eich bodloni y byddai eu diogelwch neu ddiogelwch unrhyw unigolyn arall yn yr un cartref mewn perygl pe câi eu manylion eu cyhoeddi.5 Mae'n rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol neu ardystiad i ategu'r cais.6
 
Ni ddylech ymwneud ag amgylchiadau personol ymgeiswyr a dylech wneud eich penderfyniadau ar sail y dogfennau ategol yn unig. Dylech fod yn fodlon bod y dogfennau a ddarparwyd i ategu'r cais yn ddilys. 

Gall etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n ddienw roi cyfeiriad gohebu y mae'n rhaid ei ddefnyddio ar gyfer gohebiaeth sy'n ymwneud â chofrestru yn y dyfodol, os nodir cyfeiriad o'r fath.7  

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021