Sut y dylid rhestru etholwyr dienw ar y gofrestr?

Sut y dylid rhestru etholwyr dienw ar y gofrestr?

Mae'n rhaid cynnwys pobl sydd wedi'u cofrestru'n ddienw ar ddiwedd pob rhan berthnasol o'r gofrestr o dan y pennawd 'etholwyr eraill' heb enw na chyfeiriad. Mae'n rhaid i'r cofnod ar gyfer pob etholwr sydd wedi'i gofrestru'n ddienw gynnwys rhif yr etholwr a'r llythyren 'N’.1  

Ni ddylid cynnwys cofrestriadau dienw ar y gofrestr olygedig a chaiff pob etholwr dienw ei eithrio'n awtomatig.2
 
Mae'n rhaid i chi gadw rhestr ar wahân – y cofnod cofrestriadau dienw. Bydd y rhestr hon yn cynnwys rhif yr etholwr, enw llawn, cyfeiriad cymwys, cyfeiriad gohebu (os oes un) a'r dyddiad y daeth y cofrestriad i rym gyntaf. Os oes gan yr unigolyn bleidlais bost, mae'n rhaid cadw'r cyfeiriad dosbarthu ar y cofnod hefyd.3 Dylech sicrhau y caiff y rhestr ei chadw'n ddiogel ac atal unrhyw fynediad heb awdurdod. 

Dim ond y bobl a'r sefydliadau canlynol all weld y cofnod cofrestriadau dienw:4  

  • Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cyfrif mewn refferendwm 
  • y Gwasanaeth Rheithgor 
  • y gwasanaethau diogelwch, gan gynnwys Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth (GCHQ) 
  • yr heddlu, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (ar gais uwch-swyddog, mae hyn yn golygu swyddog ar reng uwchben rheng uwcharolygydd, neu, yn achos yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Asiantaeth honno). 

Pan gaiff unigolyn ei gofnodi yn y cofnod, bydd angen i chi gyhoeddi 'tystysgrif cofrestru'n ddienw' wedi'i llofnodi. Mae'n rhaid i'r dystysgrif ddatgan ardal yr awdurdod lleol, enw'r etholwr, y cyfeiriad cymwys, y rhif etholiadol a'r dyddiad y daeth y cofrestriad i rym. Mae'n rhaid iddi hefyd nodi y bydd y cofrestriad yn dod i ben 12 mis fan bellaf o'r dyddiad hwnnw os na wneir cais newydd i gofrestru'n ddienw.5  

Rydym wedi llunio templed o dystysgrif cofrestru'n ddienw efallai yr hoffech ei ddefnyddio. 


Rhestrau pleidleisio absennol 

Ar gyfer etholwyr dienw a'u dirprwyon, dim ond rhif etholiadol yr etholwr a'r cyfnod y mae'r bleidlais absennol mewn grym y dylai'r rhestrau pleidleisio absennol eu cynnwys. Ni ddylent nodi unrhyw enw na chyfeiriad.6 Mewn etholiad, dim ond y rhif etholiadol y mae'r copi o'r rhestrau pleidleisio absennol yn ei gynnwys er mwyn gallu dosbarthu pleidlais bost a marcio'r pleidleisiau post a ddychwelir.7 Ni ddylai'r cyfeiriad yr anfonir y pecyn pleidleisio iddo fod ar y rhestr honno a rhaid i'r holl ohebiaeth gael ei hanfon mewn amlen blaen.8

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021