Mae gan etholwr dienw yr hawl i barhau i gael ei gofrestru ar yr amod bod yr etholwr yn parhau i fodloni'r amodau eraill ar gyfer cofrestru yn ystod y cyfnod hwn, tan ddiwedd y cyfnod 12 mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan ddaw ei gofnod i rym gyntaf.
Bydd angen i chi gadw cofnod yn dangos pryd mae angen anfon ffurflenni atgoffa.
Mae'n rhaid i chi anfon ffurflen atgoffa rhwng 9 a 10 mis ar ôl dyddiad y cofrestriad cyntaf (a phob blwyddyn wedi hynny). Mae'n rhaid i'r ffurflen atgoffa egluro bod yn rhaid gwneud cais newydd i gofrestru'n ddienw os bydd yr etholwr am barhau wedi'i gofrestru'n ddienw.1
Mae'n rhaid i unrhyw gais i adnewyddu gynnwys yr un lefel o dystiolaeth â'r cais gwreiddiol. Felly dylai ymgeiswyr gadw copi o ardystiadau neu gopïau o ddogfennau llys ar gyfer ceisiadau dilynol. Dylech gynnig gwneud copi o unrhyw ddogfennau gwreiddiol er mwyn gallu eu dychwelyd a chadw'r copi i gyfeirio ato. Os bydd yr etholwr yn colli ei ddogfennau ategol, ar yr amod bod y camau diogelu priodol ar waith gennych, gallech ddarparu copi o unrhyw ddogfen neu ardystiad sydd mewn grym o hyd er mwyn hwyluso unrhyw broses adnewyddu.
Gall cofnodion dienw fod yn destun gweithdrefnau adolygu. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses adolygu yn adolygiadau, gwrthwynebiadau ac achosion o ddileu. Ni chaiff enw a chyfeiriad yr unigolyn eu cynnwys ar y rhestr o unigolion a adolygir.