Beth yw'r terfynau amser ar gyfer ychwanegu etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n ddienw at y gofrestr?

Beth yw'r terfynau amser ar gyfer ychwanegu etholwyr sydd wedi'u cofrestru'n ddienw at y gofrestr?

Mae'r terfynau amser ar gyfer ceisiadau dienw yn wahanol i geisiadau ar gyfer cofrestriad cyffredin gan nad oes cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod ar gyfer ymgeiswyr dienw. Mae hyn oherwydd na ellir gwrthwynebu eu ceisiadau.
 
Mae'r terfynau amser ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru'n ddienw a phenderfynu ar y ceisiadau hynny fel a ganlyn:1   
 
 

i gael eich ychwanegu i hysbysiad o newid misol 14 diwrnod calendr cyn cyhoeddi'r hysbysiad 
i gael eich ychwanegu i'r hysbysiad o newid terfynol ar gyfer etholiad 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio
i gael eich ychwanegu i'r gofrestr ddiwygiedig yn dilyn y canfasiad diwrnod gwaith olaf y mis cyn y mis y caiff y gofrestr ddiwygiedig ei chyhoeddi 
i gael eich ychwanegu i gofrestr ddiwygiedig a gyhoeddir unrhyw bryd arall 14 diwrnod calendr cyn diwedd y mis cyn y mis y disgwylir i'r gofrestr ddiwygiedig gael ei chyhoeddi 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021