Sut y dylid prosesu cais i gofrestru'n ddienw?

Sut y dylid prosesu cais i gofrestru'n ddienw?

Cydnabod ceisiadau

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i gydnabod cais, er bod croeso i chi anfon cydnabyddiaeth os byddwch am wneud hynny. Ym mhob achos, mae'n ofynnol i chi anfon cadarnhad os bydd y cais yn llwyddiannus, fel y nodir isod.  

Dilysu ceisiadau 

Dylid prosesu ceisiadau a dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd cyn gynted â phosibl ar ôl eu derbyn. 

Os byddwch yn derbyn cais lle nad yw'r cyfeiriad cymhwyso yn rhan o'ch ardal, dylid ei anfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol ar unwaith.

Mae'n rhaid i unrhyw ymgeisydd na ellir cyfateb eu data â data DWP ddarparu tystiolaeth ddogfennol neu, os na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol, ardystiad yn yr un ffordd â phobl sy'n gwneud cais i gofrestru fel etholwr cyffredin. Gweler ein harweiniad ar ddilysu, eithriadau ac ardystiadau.

Gellir anfon pob gohebiaeth rhyngoch chi ac ymgeiswyr yn electronig. Yn ogystal, caniateir i ymgeiswyr ddarparu ardystiadau neu dystiolaeth ddogfennol trwy ddulliau electronig megis ffacs neu ddelwedd wedi'i sganio.

Lle y gwneir cais i gofrestru'n ddienw gan unigolyn o dan 18 oed at ddiben cofrestru ar y gofrestr llywodraeth leol, ac na ellir dilysu hunaniaeth yr unigolyn hwnnw drwy ddefnyddio cofnodion addysg neu ddata lleol eraill, dylech ofyn iddo ddarparu tystiolaeth ddogfennol, neu os na all wneud hynny, ardystiad, yn yr un ffordd â phobl sy'n gwneud cais i gofrestru fel etholwr cyffredin.

Nid ychwanegir manylion ceisiadau i gofrestru'n ddienw megis enw a chyfeiriad at y rhestrau o geisiadau. Ni fydd ceisiadau dienw ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ar unrhyw adeg.1
  
O ganlyniad, ni fydd y cyhoedd yn gallu craffu ar y ceisiadau hyn yn yr un ffordd â cheisiadau cofrestru etholiadol eraill. Felly dylech roi sylw penodol i sicrhau eich bod yn fodlon bod yr holl ofynion cofrestru wedi'u bodloni. 

Pan anfonir cais dienw, caiff pob cais 'arferol' blaenorol y disgwylir penderfyniad arno neu y penderfynwyd arno ond nad ychwanegwyd at y gofrestr ar gyfer yr unigolyn hwnnw ei atal hyd nes y penderfynir ar y cais dienw. Os caiff y cais dienw ei wrthod, yna rhaid diystyru pob cais cofrestru arfaethedig. Os caiff y cais i gofrestru'n ddienw ei wrthod, ni ellir ychwanegu'r unigolyn hwnnw fel etholwr cyffredin. 

Cadarnhau ceisiadau a datganiadau 

Os byddwch yn penderfynu bod hawl gan ymgeisydd i gael ei gofrestru'n ddienw, mae'n rhaid i chi gyhoeddi tystysgrif cofrestru'n ddienw.2  Mae'n rhaid i chi hefyd anfon hysbysiad atynt drwy'r post, cyn gynted ag sy'n resymol ymarferol, i roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt gael Dogfen Etholwr Dienw os ydynt am bleidleisio'n bersonol yn etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, neu lenwi ffurflen llofnodi yn bersonol mewn deiseb adalw.3  Dylech hefyd ystyried cadarnhau unrhyw drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith, neu os nad oes unrhyw drefniadau ar waith, dylech nodi ei opsiynau pleidleisio absennol yn glir. Os bydd unigolyn eisoes wedi'i gynnwys ar y gofrestr ac y caiff cais dienw ei dderbyn, mae'n rhaid dileu'r cofnod ar y gofrestr gyffredin ac ychwanegu'r cofrestriad dienw. Fodd bynnag, ni ddylid dileu'r cofnod presennol hyd nes y caiff y cais dienw ei dderbyn. 

Os ydych wedi gwrthod cais, dylech hysbysu'r ymgeisydd a nodi'r rhesymau dros wrthod.

Ni ddylid ychwanegu manylion unigolyn sydd wedi gwneud cais i gofrestru'n ddienw at y gofrestr os bydd y rhan ddienw o'r cais yn methu.4  Fodd bynnag, dylech ei annog i gyflwyno cais am gofrestriad cyffredin a'i wahodd i gofrestru. Os na fydd yn cyflwyno cais mewn ymateb i wahoddiad, gallwch ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cais i gofrestru, ond dylech ystyried amgylchiadau penodol yr unigolyn cyn cyflwyno hysbysiad ‘gofyniad i gofrestru’.

Lle y cyflwynir gofyniad i gofrestru i unigolyn o dan 16 oed, ni ddylai gyfeirio at y gosb sifil gan na ellir gosod cosb sifil ar unigolyn o dan 16 oed.  

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023