Am ba hyd y mae cofrestriad dienw yn ddilys?

Am ba hyd y mae cofrestriad dienw yn ddilys?

Bydd y cofrestriad yn para am 12 mis o'r diwrnod y gwneir y cofnod dienw ar y gofrestr gyntaf.1 Gellir dileu cofrestriadau dienw yn gynharach o dan yr amgylchiadau canlynol:2  

  • penderfyniad i ganslo'r cofrestriad gan yr etholwr 
  • rydych yn penderfynu nad oes gan yr unigolyn yr hawl i gael ei gofrestru
  • rydych yn penderfynu bod yr unigolyn wedi'i gofrestru, neu fod ei gofnod wedi'i newid, o ganlyniad i gais a wnaed gan unigolyn arall (h.y. nid yr unigolyn y darperir ei fanylion ar y cais ac sydd wedi datgan bod y wybodaeth a ddarparwyd yn wir)

I gael canllawiau ar dynnu etholwr oddi ar y gofrestr, gweler ein canllawiau ar ddileu


 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021