Pa ddogfennau neu ardystiadau y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cais i gofrestru'n ddienw?

Pa ddogfennau neu ardystiadau y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cais i gofrestru'n ddienw?

Mae'n rhaid cyflwyno gorchymyn llys neu ardystiad gyda'r cais hefyd.1  

Rhaid i unrhyw orchymyn llys neu waharddeb ddiogelu'r ymgeisydd neu unigolyn arall yn yr un cartref neu fod o fudd iddo.2 Mae'n rhaid i'r gorchymyn fod mewn grym ar ddiwrnod y cais,3 ond nid o reidrwydd am y cyfnod cofrestru 12 mis cyfan. Nid yw gorchymyn sy'n peidio â bod mewn grym mwyach yn ystod y cyfnod cofrestru 12 mis yn lleihau hyd y cyfnod cofrestru nac yn effeithio arno fel arall. Mae copi o unrhyw ddogfen berthnasol gan y llys yn dderbyniol.4
 
Mae'r dogfennau cymwys gan lys fel a ganlyn:5  

Dogfennau cymwys gan lys
gwaharddeb i atal unigolyn rhag ymddwyn mewn ffordd sy'n gyfystyr ag aflonyddu a roddir o dan Adran 3 o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997, neu o dan erthygl 5 o Orchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997
gwaharddeb a roddir o dan Adran 3A(2) o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997
gorchymyn atal a wneir o dan Adran 5(1) o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997, neu o dan erthygl 7 o Orchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997
gorchymyn atal a wneir yn dilyn rhyddfarn o dan Adran 5A(1) o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997, neu o dan erthygl 7(A)1 o Orchymyn Diogelu rhag Aflonyddu (Gogledd Iwerddon) 1997
gorchymyn rhag aflonyddu, ataleb neu ataleb interim a wneir o dan Adran 8 neu 8A o Ddeddf Diogelu rhag Aflonyddu 1997
gorchymyn rhag aflonyddu a wneir o dan Adran 234A(2) o Ddeddf Gweithdrefn Troseddol (yr Alban) 1995
gorchymyn peidio ag ymyrryd a wneir o dan Adran 42(2) o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, neu o dan erthygl 20(2) o Orchymyn Cartrefi Teuluol a Thrais Domestig (Gogledd Iwerddon) 1998
ataleb briodasol o fewn ystyr Adran 14 o Ddeddf Cartrefi Priodasol (Amddiffyn y Teulu) (yr Alban) 1981
ataleb ddomestig o fewn ystyr Adran 18A o Ddeddf Cartrefi Priodasol (Amddiffyn y Teulu) (yr Alban) 1981
ataleb berthnasol o fewn ystyr Adran 113 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004
ataleb y pennwyd ei bod yn ataleb cam-drin domestig o fewn ystyr Adran 3 o Ddeddf Cam-drin Domestig (yr Alban) 2011
unrhyw ataleb sy'n cynnwys y pŵer i arestio a wneir o dan Adran 1 o Ddeddf Amddiffyn rhag Camdriniaeth (yr Alban) 2001
gorchymyn amddiffyn rhag priodas dan orfod neu orchymyn amddiffyn interim rhag priodas dan orfod a wneir o dan Ran 4A o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996, neu o dan Adran 2, a pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Priodas dan Orfod (Amddiffyn Sifil) 2007, neu o dan Adran 1 neu Adran 5 o Ddeddf Priodas dan Orfod ac ati (Amddiffyn ac Awdurdodaeth) (yr Alban) 2011
gorchymyn amddiffyn rhag trais domestig a wneir o dan Adran 28 o Ddeddf Trosedd a Diogelwch 2010 neu adran 97 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2015, a pharagraff 5 o Atodlen 7 i'r ddeddf honno. Mae templed o orchymyn amddiffyn rhag trais domestig ar gael ar ein gwefan, er y dylech fod yn ymwybodol y bydd pob Gorchymyn wedi'i deilwra at amgylchiadau'r achos.
gorchymyn amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod a wneir o dan Adran 5A, a pharagraffau 1 neu 18 o Atodlen 2 i Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003. Mae templed o orchymyn amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod ar gael ar ein gwefan, er y dylech fod yn ymwybodol y gall y Gorchymyn ymddangos ar ffurfiau gwahanol. 
Gellir ond defnyddio gorchymyn amddiffyn rhag cam-drin domestig o fewn ystyr Adran 27 o Ddeddf Cam-drin Domestig 2021 ar gyfer gwneud cais am y gofrestr etholwyr seneddol, neu gofrestriad dienw ar ei chyfer.

Ni ellir defnyddio unrhyw ddogfennau eraill ac eithrio'r rhain fel dogfennau llys cymwys i ategu cais i gofrestru'n ddienw.

Os defnyddir ardystiad, rhaid iddo ardystio pe byddai'r enw neu'r cyfeiriad ar y gofrestr y byddai'r ymgeisydd neu aelod arall o'r un cartref 'mewn perygl'.6 Rhaid i ardystiadau fod yn ysgrifenedig a rhaid i swyddog cymwys eu llofnodi a'u dyddio. Mae cyfnod yr ardystiad yn dechrau ar y dyddiad a nodwyd ac yn para rhwng blwyddyn a phum mlynedd. Rhaid nodi'r union gyfnod yn yr ardystiad.7  

Mae'r ffurflen gais i gofrestru'n ddienw a gymeradwywyd gan Arglwydd Lywydd y Cyngor ac sydd ar gael gan y Comisiwn Etholiadol yn cynnwys templed o ardystiad y gall ymgeiswyr ei ddefnyddio

Gall y swyddogion cymwys canlynol ardystio:8  

  • swyddog heddlu ar reng arolygydd neu reng uwch mewn unrhyw heddlu yn y DU 
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaeth Diogelwch neu'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 
  • cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru neu gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol oedolion neu wasanaethau plant yn Lloegr
  • unrhyw brif swyddog gwaith cymdeithasol yn yr Alban 
  • gall cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru awdurdodi unrhyw unigolyn i ardystio cais i gofrestru'n ddienw ar gyfer unigolyn o dan 16 oed. Mae'n rhaid anfon yr awdurdodiad ysgrifenedig gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol gyda'r ardystiad.9  
  • unrhyw gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu gyfarwyddwr gweithredol gwaith cymdeithasol Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon
  • unrhyw ymarferydd meddygol sydd wedi'i gofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol 
  • unrhyw nyrs neu fydwraig sydd wedi'i chofrestru â'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 
  • unrhyw berson sy'n rheoli lloches. Ystyr 'lloches' yw llety â rhaglen gynlluniedig o gymorth therapiwtig ac ymarferol i'r rhai sydd wedi dioddef, neu sydd mewn perygl o ddioddef, camdriniaeth neu drais domestig10  

Ni all unrhyw unigolyn ac eithrio'r rheini a restrir ardystio cais i gofrestru'n ddienw. Ni all swyddog cymwys ddirprwyo ei bŵer i ardystio cais i unigolyn arall. 

Gall un o'r swyddogion cymwys o ardal wahanol i'r ardal y mae'r etholwr yn byw ynddi bellach ac yn cofrestru ynddi ardystio'r cais. Gall hyn ddigwydd yn aml lle mae'r ymgeisydd wedi symud i ardal newydd i ymgartrefu oddi wrth yr hyn sy'n peryglu ei ddiogelwch. Er enghraifft, mae ardystiad gan gyfarwyddwr gwasanaethau plant awdurdod lleol yn Lloegr yn ddilys ymhob ardal awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr.

Dylech ystyried cysylltu ag unrhyw swyddogion cymwys er mwyn rhoi gwybod iddynt am eu pwerau o dan y broses cofrestru'n ddienw. Efallai y byddant am wybod am eu pwerau ardystio ac unrhyw ganllawiau a roddwyd gan eu grwpiau cynrychioliadol ar ymdrin â cheisiadau ardystio. Yn arbennig, dylech fwrw ati i gysylltu ag unrhyw lochesi, meddygfeydd a sefydliadau meddygol eraill yn eich ardal gofrestru na fyddant o bosibl yn ymwybodol bod y mathau o orchmynion llys a'r gofynion ardystio wedi ehangu. Er enghraifft, gallech gysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol, Cymorth i Fenywod, neu sefydliadau eraill sy'n gweithio gyda goroeswyr trais domestig a gofyn iddynt – gan egluro'r hyn rydych yn ei wneud – am fanylion llochesi yn eich ardal gofrestru. 

Mewn partneriaeth â Cymorth i Fenywod, rydym wedi llunio canllaw i gofrestru'n ddienw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda goroeswyr trais domestig. 



Mae'r canllaw yn egluro ystyr cofrestru'n ddienw ac y caiff manylion am enw a chyfeiriad ymgeisydd eu cadw'n ddiogel ac na fydd modd chwilio amdanynt ar y gofrestr etholiadol. Mae'r canllaw hefyd yn nodi sut i wneud cais i gofrestru'n ddienw a sut y gall rheolwyr lloches ddarparu ardystiad os byddant am wneud hynny. 

Os byddwch o'r farn bod angen gwneud hynny, gallwch gynnal gwiriadau ar-lein ar gyfer rhai categorïau penodol o ardystwyr: 

  • Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cadw rhestr o ymarferwyr meddygol cofrestredig ac mae'r rhestr honno ar gael ar ei wefan: www.gmc-uk.org
  • Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cadw rhestr o nyrsys a bydwragedd cofrestredig ar ei wefan: www.nmc.org.uk

Os oes gennych bryderon am gais i gofrestru'n ddienw, dylid ei drin fel unrhyw gais arall i gofrestru. Fel y nodir yn ‘Nodi ceisiadau cofrestru amheus’, bydd eich pwynt cyswllt unigol (SPOC) o fewn eich heddlu lleol yn eich helpu i sicrhau y caiff unrhyw achosion posibl o dwyll cofrestru eu nodi a'u datrys yn gyflym. Os oes gennych reswm dros gredu nad yw ardystiad a ddarparwyd fel rhan o gais i gofrestru'n ddienw yn ddilys, dylech gysylltu â'ch SPOC cyn gynted â phosibl. 
 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Chwefror 2023