Os bydd unigolyn wedi gwneud cais i gael adolygiad o'ch penderfyniad i osod cosb sifil, a hynny'n aflwyddiannus, y llwybr apelio cyntaf a fydd ar gael iddo fydd apelio i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf.1
Gall y Tribiwnlys naill ai gadarnhau eich penderfyniad i osod cosb sifil neu ganslo'r gosb.2
Yn ystod cyfnod y broses apelio, caiff y gofyniad i dalu'r gosb sifil ei atal dros dro.3
Os bydd yr unigolyn yn apelio, bydd angen i chi baratoi gwybodaeth a thystiolaeth i helpu'r Tribiwnlys i benderfynu a gafodd yr holl ofynion cyfreithiol sy'n arwain at roi'r gosb sifil eu bodloni. Dylech gynnwys copïau o'r holl ddogfennau a ddefnyddiwyd gennych (yn cynnwys eich gwahoddiadau a'ch hysbysiadau), a gwybodaeth a thystiolaeth am y canlynol:
pam y gwnaethoch benderfynu anfon gwahoddiad i gofrestru (e.e. pa gofnod a wiriwyd a wnaeth i chi gredu bod preswylydd unigol a oedd yn gymwys i gofrestru, neu a gawsoch y wybodaeth hon drwy ohebiaeth â'r etholwr ei hun neu drwy drydydd parti)
pryd a sut y gwnaethoch roi'r tri gwahoddiad i gofrestru a phryd y gwnaethoch gynnal ymweliad personol, yn cynnwys unrhyw ymatebion a gawsoch
y dyddiadau y gwnaethoch roi'r gofyniad i gofrestru a'r hysbysiad o gosb sifil
os gofynnodd yr unigolyn am adolygiad neu os cyflwynodd unrhyw sylwadau neu dystiolaeth i chi fel arall, y sylwadau, y dystiolaeth a chasgliad eich adolygiad
Siambr y Tribiwnlys Haen Gyntaf sy'n gyfrifol am glywed apeliadau yn erbyn hysbysiadau o gosb sifil yw'r Siambr Reoleiddio Gyffredinol:
General Regulatory Chamber
HM Courts and Tribunals Service
PO Box 9300
Leicester, LE1 8DJ