Pa wybodaeth y mae'n rhaid i'r hysbysiad cosb sifil ei chynnwys?

Rhaid i'r hysbysiad esbonio bod yn rhaid i'r unigolyn wneud y canlynol1 :   

  • gwneud cais i gofrestru o fewn 28 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad, neu
  • talu swm llawn y gosb sifil o fewn 28 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad, neu
  • gofyn am adolygiad o'r penderfyniad i osod y gosb sifil o fewn 14 diwrnod calendr o ddyddiad yr hysbysiad

Rhaid i'r hysbysiad nodi hefyd2

  • swm y gosb sifil (£80)3  
  • sut i dalu 
  • cyfradd y llog sy'n daladwy os na thelir y gosb ar amser (sef cyfradd ddyddiol y llog sy'n cyfateb i 8% y flwyddyn o'r dyddiad y mae'n rhaid talu'r gosb sifil)
  • y bydd gwneud cais i gofrestru erbyn y dyddiad a nodir ar yr hysbysiad yn atal yr unigolyn rhag bod yn agored i dalu'r gosb sifil
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021