Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cynnal o leiaf un ymweliad personol
Os byddwch wedi rhoi trydydd gwahoddiad ac na wnaed cais i gofrestru, yn unol â gofynion y gyfraith, rhaid i chi gynnal o leiaf un ymweliad â'r cyfeiriad at ddiben annog yr unigolyn i wneud cais.1
Gallwch ddewis cynnal ymweliad unrhyw bryd yn ystod y broses, er enghraifft wrth ddosbarthu unrhyw un o'r gwahoddiadau. Felly, mae'n bosibl y byddwch wedi bodloni'r gofyniad hwn cyn diwedd y cylch cysylltu i roi gwahoddiad i gofrestru. Fodd bynnag, mae'n rhaid eich bod wedi cynnal ymweliad yn benodol at ddiben annog unigolyn i wneud cais i gofrestru. Yn ein barn ni, mae hyn yn golygu ymweliad lle rydych wedi ceisio cysylltu'n bersonol â'r unigolyn rydych yn ei wahodd.
Beth sy'n gyfystyr ag ymweliad personol?
Yn ein barn ni, byddai ymweliad a wneir at ddiben gadael gwahoddiad i gofrestru a ffurflen gais yn y cyfeiriad heb unrhyw ymgais i gysylltu â'r unigolyn sy'n cael ei wahodd, yn bodloni'r gofyniad.
Byddai'r gofyniad yn cael ei fodloni pe byddai'r unigolyn sy'n cynnal yr ymweliad yn siarad â'r unigolyn sy'n cael ei wahodd ac yn ei annog i wneud cais.
Fel gyda phob cam o'r broses hon, dylech sicrhau eich bod yn cadw cofnodion fel bod gennych drywydd archwilio clir o'r camau a gymerwyd gennych fel rhan o'r broses gwahoddiad i gofrestru. Bydd hyn yn helpu i sicrhau, os byddwch yn ystyried ei gwneud yn ofynnol i unigolyn wneud cais, y gallwch gadarnhau bod y rhagofynion ar gyfer gwneud gofyniad o'r fath wedi'u bodloni.
Sut bynnag, dylech ystyried cynnal ymweliad arall os yw'n debygol y bydd yn arwain at wneud cais.
Os na chaiff cais ei wneud mewn ymateb i'r trydydd gwahoddiad, ac y byddwch wedi cynnal o leiaf un ymweliad â'r cyfeiriad, gallwch symud i'r cam nesaf, sef ei gwneud yn ofynnol i'r unigolyn wneud cais i gofrestru drwy roi hysbysiad ysgrifenedig o'r gofyniad iddo.2
Nid yw'n ofynnol cynnal ymweliad personol â phobl ifanc 14 neu 15 oed nad ydynt wedi ymateb i wahoddiad i gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.3
Os na fyddwch yn ymweld â'r cartref, dylech ystyried pa ddulliau eraill y gallwch eu defnyddio i annog ymateb gan y rhai yn y grŵp oedran hwn. Er enghraifft, gallech gysylltu â phobl ifanc dan 16 oed drwy e-bost os bydd gennych eu cyfeiriadau e-bost.
Hefyd, fel rhan o unrhyw weithgarwch canfasio dilynol, gall fod cyfle i atgoffa unrhyw oedolion sy'n byw mewn cyfeiriad bod gan bobl ifanc 15 oed a rhai pobl ifanc 14 oed hawl i gofrestru, a gofyn iddynt annog unrhyw bobl ifanc 14/15 oed yn y cyfeiriad i wneud cais i gofrestru ar-lein.
Dylech hefyd weithio gyda phartneriaid sy'n gweithio'n benodol gyda phobl ifanc neu sydd â dylanwad drostynt, ac adlewyrchu hyn yn eich cynlluniau. Rydym yn rhoi canllawiau penodol ar ymgysylltu â phobl ifanc a chyrhaeddwyr yn ein taflen tactegau enghreifftiol ar gyfer cyrraedd cynulleidfaoedd targed isod.
- 1. Rheoliad 32ZD(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 9E(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliad 32ZE(2)(a), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. a14 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru), gan gynnwys (7A) yn Adran 9E o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. ↩ Back to content at footnote 3