Camau i'w cymryd os na allwch ddefnyddio Gwasanaeth Digidol IER
Canfod ble mae'r broblem
Dylech gysylltu ag adran TG eich sefydliad yn gyntaf. Os nad yw'n ymddangos bod y broblem yn un lleol, dylech gysylltu â Gwasanaeth Digidol IER i gael gwybodaeth am statws Gwasanaeth Digidol IER.
Asesu'r broblem
Dylech benderfynu a fydd y broblem gyda'r gwasanaeth yn cael effaith sylweddol ar y broses o gofrestru pleidleiswyr. Ymhlith y ffactorau i'w hystyried mae:
faint o amser sydd tan unrhyw derfynau amser ar gyfer cofrestru
faint o geisiadau heb eu prosesu sy'n weddill
faint o amser y rhagwelir y bydd yn ei gymryd i ddatrys y broblem gyda'r gwasanaeth
pa adnoddau sydd ar gael i gynnal y broses gofrestru mewn modd amserol
Er enghraifft, os bydd problem yn ystod y cylch misol arferol o gofrestru parhaus lle nad oes terfyn amser ar gyfer etholiad yn agos, mae'n bosibl na thybir y bydd hynny'n cael effaith sylweddol, felly gellid penderfynu ar geisiadau ar ôl i'r gwasanaeth ailddechrau.
Rhoi gwybod am y broblem
Dylech roi gwybod i adran TG eich sefydliad am broblem leol, neu i gyflenwr eich System Rheoli Etholiad os yw'n ymddangos mai'r system honno yw gwraidd y broblem. Dylech edrych i weld a oes unrhyw negeseuon gan Ganolfan Gymorth IER ac, os nad oes gwybodaeth am eich problem chi, rhowch wybod i Ganolfan Gymorth IER amdani. Bydd y Ganolfan Gymorth yn trafod yr atebion posibl â chi a bydd wedi rhoi mesurau ar waith i ddatrys llawer o'r problemau mwyaf tebygol mewn perthynas â chysylltedd lleol â gwasanaeth IER.
Penderfynu a ddylid rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith
Dylech ddefnyddio'r wybodaeth rydych wedi'i chasglu o dan y camau blaenorol i benderfynu a ddylid rhoi eich cynlluniau wrth gefn ar waith.
Cofnodi eich camau gweithredu
Dylech gofnodi unrhyw broblem, p'un a wnaethoch roi cynlluniau wrth gefn ar waith ai peidio, pa gamau a gymerwyd gennych, a beth oedd y canlyniadau. Gall y wybodaeth hon fod yn ddefnyddiol os caiff unrhyw rai o'ch penderfyniadau eu herio.