Beth os nad oes gan ymgeisydd ddyddiad geni neu os na all ei roi?

Ar y ffurflen gais ddigidol a'r ffurflen bapur, gofynnir i ymgeiswyr nad ydynt yn rhoi eu dyddiad geni, neu'r rhai na allant wneud hynny, esbonio pam nad ydynt yn ei roi. Dylech fod yn fodlon ar y rheswm a roddir dros beidio â rhoi dyddiad geni.

Hefyd, rhaid i geisiadau nad ydynt yn cynnwys dyddiad geni gael eu cyflwyno ar y cyd â datganiad bod yr ymgeisydd1  

  • o dan 16 oed
  • yn 16 neu 17 oed
  • yn 18 oed neu drosodd
  • yn 76 oed neu drosodd 
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021