Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Rhifau Yswiriant Gwladol
Dylai rhifau Yswiriant Gwladol ymddangos yn y cyfuniad canlynol o lythrennau a rhifau – dwy lythyren, chwe rhif, un llythyren. Er enghraifft: QQ 123456 C.
Mae'r tabl isod yn rhoi enghreifftiau eraill o bethau y gellir eu cyflwyno yn lle'r rhif Yswiriant Gwladol arferol, gyda rhai canllawiau ar anfon y ceisiadau hyn i'w dilysu.
Fformat y rhif Yswiriant Gwladol | A ddylwn anfon y cais i'w ddilysu? |
Nid yw'r rhif Yswiriant Gwladol yn cynnwys llythyren olaf | Dylech – mae hwn yn gyflwyniad dilys a dylid ei anfon i'w ddilysu yn ôl yr arfer |
Rhif cyfeirnod Yswiriant Gwladol dros dro – dau rif (sydd i'w gweld weithiau mewn gohebiaeth gan CThEM wedi'u disgrifio fel “rhif Yswiriant Gwladol”) | Na ddylech – nid yw'n ofynnol i chi gyflwyno cyfeirnod dros dro i'w ddilysu. Ewch yn syth i'r broses eithriadau |
Y llythrennau OO | Na ddylech – nid yw'n ofynnol i chi gyflwyno cyfeirnod dros dro i'w ddilysu. Ewch yn syth i'r broses eithriadau |
Y llythrennau TN | Na ddylech – nid yw'n ofynnol i chi gyflwyno cyfeirnod dros dro i'w ddilysu. Ewch yn syth i'r broses eithriadau |
Nid yw'n ofynnol i chi hidlo ceisiadau sydd â rhifau Yswiriant Gwladol dros dro eich hun. Os caiff cais ei anfon i'w ddilysu yn ôl yr arfer, bydd yn methu, a byddwch yn symud ymlaen i'r broses eithriadau.
Wrth lenwi ffurflen bapur, efallai y bydd rhai etholwyr yn rhoi rhifau heblaw eu rhif Yswiriant Gwladol drwy gamgymeriad. Mae'n debygol mai'r rhai mwyaf cyffredin fydd:
- rhif GIG – bydd hwn yn 10 digid o hyd, yn cynnwys rhifau yn unig, ac fel arfer yn y fformat 3 – 3 – 4;
- rhif pasbort – bydd y fformat hwn yn amrywio, ond ni fydd yr un peth â'r rhif GIG na'r rhif Yswiriant Gwladol.
Mewn achosion lle mae'n amlwg bod yr ymgeisydd wedi rhoi'r rhif anghywir, dylech gysylltu â'r ymgeisydd drwy unrhyw ddull cyfathrebu, gan gynnwys e-bost a ffôn os yw'r manylion cyswllt gennych, a gofyn iddo roi'r rhif cywir.
Nid yw cais nad yw'n cynnwys rhif Yswiriant Gwladol cywir, lle mae rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd ar goll, neu lle na roddwyd rheswm pam na ellir rhoi'r rhif Yswiriant Gwladol, yn gais cyflawn ac ni allwch benderfynu arno at ddibenion cynnwys yr ymgeisydd ar y gofrestr etholiadol nes y bydd rhif Yswiriant Gwladol neu ddatganiad yn esbonio pam na ellir rhoi rhif Yswiriant Gwladol wedi cael ei roi.
Pwy a ddylai fod â rhif Yswiriant Gwladol?
Bydd gan y rhan fwyaf o etholwyr cymwys rif Yswiriant Gwladol.
Fel arfer, ond nid bob amser, caiff rhifau Yswiriant Gwladol eu rhoi i'r canlynol:
- pobl sy'n gweithio'n gyfreithlon yn y DU
- pobl sy'n hawlio budd-daliadau yn y DU (gan gynnwys pobl sydd wedi cael Benthyciad i Fyfyrwyr)
- pobl sydd yn y DU ychydig cyn eu pen-blwydd yn 16 oed ac mae eu rhieni'n hawlio budd-dal plant ar eu cyfer.
Pwy a allai fod heb rif Yswiriant Gwladol?
- Mae'n bosibl na fydd gan nifer bach o bobl rif Yswiriant Gwladol.
- Mae nifer o ymgeiswyr yn unigolion sy'n gymwys i bleidleisio yn y DU ond sydd heb rif Yswiriant Gwladol, a gallent gynnwys y canlynol (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr):
- gwladolyn tramor cymwys neu dinesydd Ewropeaidd sy'n astudio yn y DU ac sy'n ariannol hunangynhaliol
- gwladolyn tramor cymwys neu dinesydd Ewropeaidd sydd wedi cael ei leoli i weithio yn y DU ond sy'n parhau i dalu trethi yn ei wlad ei hun
- person ifanc o Brydain na chafodd rif Yswiriant Gwladol drwy broses ddosbarthu awtomatig CThEM
- dinesydd o'r Gymanwlad sy'n byw yn y DU ac sy'n ariannol hunangynhaliol
- gwladolyn tramor cymwys neu dinesydd Ewropeaidd sydd erioed wedi gweithio na hawlio budd-daliadau yn y DU
- dinesydd Prydeinig sydd erioed wedi gweithio