Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Beth os nad oes gan ymgeisydd rif Yswiriant Gwladol neu os na all ei roi?
Ni chaniateir i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddosbarthu rhifau Yswiriant Gwladol at ddibenion cofrestru i bleidleisio, ac ni chewch ofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt rif Yswiriant Gwladol wneud cais am un.
Gofynnir i ymgeiswyr nad ydynt yn rhoi rhif Yswiriant Gwladol esbonio pam nad ydynt yn ei roi, a dylech fod yn fodlon ar y rheswm a roddir.
Yr eithriad i hyn yw nad oes angen i ymgeiswyr sydd o dan 16 oed roi rhif Yswiriant Gwladol nac esbonio pam nad ydynt yn ei roi.1
Dylech fod yn fodlon ar y rheswm a roddir dros beidio â rhoi rhif Yswiriant Gwladol.
Nid oes rhestr bendant o'r unigolion hynny y dylai fod ganddynt rifau Yswiriant Gwladol. Felly, nid oes modd rhoi rhestr bendant o resymau boddhaol pam na ellir rhoi rhif Yswiriant Gwladol.
- Ymhlith y rhesymau a all gael eu rhoi i chi mae'r canlynol:
- ni chafodd un erioed ei ddosbarthu i'r ymgeisydd
- mae'r ymgeisydd yn gwrthod ei roi
- ni all yr ymgeisydd ddod o hyd i'w rif Yswiriant Gwladol
Gallech gael rhesymau eraill dros beidio â rhoi rhif Yswiriant Gwladol. Dylech asesu dilysrwydd y rheswm a roddir fesul achos unigol, gan gofio'r canllawiau a roddir yn y ddogfen hon.
Os bydd yr ymgeisydd yn datgan ar ei ffurflen gais nad oes rhif Yswiriant Gwladol erioed wedi cael ei ddosbarthu iddo, ac nad oes gennych dystiolaeth sy'n gwrth-ddweud yr honiad, dylech gyfeirio'r ymgeisydd at y broses eithriadau. Ni chaniateir i'r Adran Gwaith a Phensiynau ddosbarthu rhifau Yswiriant Gwladol at ddibenion cofrestru i bleidleisio, ac ni chewch ofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt rif Yswiriant Gwladol wneud cais am un.
Os bydd ymgeisydd yn datgan ar y ffurflen gais ei fod yn gwrthod rhoi ei rif Yswiriant Gwladol, bydd gennych ryddid i benderfynu a ddylid gwrthod y cais neu gyfeirio'r ymgeisydd2 at y broses eithriadau. Mae'n ofynnol i'r ymgeisydd roi ei rif Yswiriant Gwladol, a gellir ei atgoffa am hyn.
Os bydd yr ymgeisydd yn datgan ar y ffurflen gais ei fod wedi colli neu anghofio ei rif Yswiriant Gwladol, dylech naill ai ofyn i'r ymgeisydd ddod o hyd i'w rif Yswiriant Gwladol neu gyfeirio'r ymgeisydd at y broses eithriadau.
Er y bydd y rhan fwyaf o ohebiaeth bapur gan CThEM a'r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnwys rhif Yswiriant Gwladol ymgeisydd, nid oes rhestr bendant o'r mannau lle y gall ymgeisydd ddod o hyd iddo.
Isod ceir rhestr o fannau y mae'r ymgeisydd fwyaf tebygol o ddod o hyd i'w rif Yswiriant Gwladol, yn dibynnu ar ei amgylchiadau:
Ar gyfer pobl dros 16 oed nad ydynt yn gweithio eto
- Llythyr cofrestru gan CThEM yn dweud wrthynt beth yw eu rhif Yswiriant Gwladol (efallai mai gan eu rhieni y bydd hwn)
Ar gyfer pobl gyflogedig
- Slipiau cyflog gan eu cyflogwr
- P60 (datganiad diwedd blwyddyn o gyflog a threth gan eu cyflogwr)
- P2 (hysbysiad cod treth gan CThEM)
- P45 (gan eu cyflogwr pan wnaethant adael swydd)
- P11D (gan eu cyflogwr os ydynt yn cael unrhyw fuddiannau mewn nwyddau)
- P800 (gan CThEM os ydynt wedi talu gormod neu rhy ychydig o dreth ar ddiwedd y flwyddyn)
- Hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth (SA316) neu Ffurflen Dreth (os ydynt yn Hunanasesu)
Pobl hunangyflogedig
- Hysbysiad i gyflwyno Ffurflen Dreth (SA316) neu Ffurflen Dreth
- Datganiad o Gyfrifon
Pobl sydd wedi ymddeol
- y llythyr y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei anfon ym mis Chwefror neu Fawrth bob blwyddyn yn dweud wrthych faint fydd eich pensiwn
Arall
- Cerdyn rhif Yswiriant Gwladol plastig (rhoddwyd y gorau i ddosbarthu'r rhain yn 2011)
Gallech gael rhesymau eraill dros beidio â rhoi rhif Yswiriant Gwladol. Dylech asesu dilysrwydd y rheswm a roddir fesul achos unigol, gan gofio'r canllawiau hyn.
- 1. Rheoliad 26 (9A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (Rheoliadau 2001) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 26(1)(f), Rheoliadau 2001 ↩ Back to content at footnote 2