| Argraffu'r canllawiau llawn

Penodi staff dilysu a chyfrif

Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus y caiff eu pleidleisiau eu cyfrif yn y ffordd a fwriadwyd ganddynt, bydd angen i chi sicrhau bod adnoddau priodol ar gael er mwyn sicrhau bod y prosesau dilysu a chyfrif yn amserol.

Gall eich penderfyniad o ran pryd i gychwyn proses ddilysu olygu y bydd goblygiadau o ran staffio, a bydd angen i chi gynllunio ar gyfer hyn. Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu rhoi cyfarwyddyd i chi pryd y mae'n rhaid i'r broses ddilysu ddechrau.

Mae'n bwysig sicrhau bod gennych y nifer cywir o staff cymwys, medrus a gwybodus – a bod pob aelod o staff yn glir ynghylch ei rôl – fel bod y cyfrif yn digwydd yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn cael ei gynnal yn unol â'r egwyddorion ar gyfer proses dilysu a chyfrif effeithiol. Dylech hefyd sicrhau bod nifer priodol o staff wrth gefn rhag ofn y bydd unrhyw staff yn absennol ar ddiwrnod y broses gyfrif. 

Dylech ystyried penodi'r canlynol: 

  • uwch-aelodau o staff i gynorthwyo gyda'r gwaith cyffredinol o weithredu a chydlynu prosesau a chyfrifo'r canlyniad
  • staff a goruchwylwyr i ddelio â chludo'r blychau papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u selio yn ddiogel i'r lleoliad dilysu 
  • staff a goruchwylwyr i ddelio â derbyn deunyddiau a phleidleisiau post o orsafoedd pleidleisio
  • staff a goruchwylwyr i ddelio â'r achlysur agor amlenni pleidleisiau post olaf
  • staff a goruchwylwyr i ddelio â dilysu papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd/nas defnyddiwyd, papurau pleidleisio a ddifethwyd a'r rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd
  • staff a goruchwylwyr i ddelio â didoli a chyfrif pleidleisiau
  • porthorion, staff diogelwch a staff wrth y drws i ddelio â diogelwch y safle
  • unigolyn/unigolion sydd â gwybodaeth am y safle i ddelio â rheoli'r cyfleusterau ar y safle ac o'i gwmpas
  • swyddog(ion) cyfrifol i oruchwylio diogelwch blychau pleidleisio a deunydd ysgrifennu perthnasol a phan fydd toriad mewn gweithrediadau neu pan fydd angen pecynnu papurau pleidleisio a'u cludo i leoliad arall ar ddiwedd y broses ddilysu
  • staff profiadol ym maes cysylltu â'r cyfryngau
  • unrhyw aelodau eraill o staff sydd eu hangen yn eich barn chi 

Er nad yw'n realistig disgwyl y bydd yr holl staff dilysu a chyfrif yn brysur ar bob cam o'r broses dilysu a chyfrif, gallai cynllun rheoli ymatebol sy'n monitro lefelau gweithgarwch ac yn eich galluogi i ad-drefnu adnoddau, leihau'r amser a gymerir i gwblhau prif rannau'r broses. 

Bydd ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau yn disgwyl i'r canlyniad gael ei ddatgan cyn gynted â phosibl a bydd angen i hyn hefyd gael ei gadw mewn cof wrth benderfynu ar y gofynion o ran staff.

Os cychwynnir y broses ddilysu ar unwaith ar ôl amser cau gorsafoedd pleidleisio, ni ddylech, lle y bo'n bosibl, ddefnyddio staff sydd wedi bod ar ddyletswydd pleidleisio drwy'r dydd. 

Ni ddylech benodi unrhyw un a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd yn yr etholiad neu yn ei gylch.1

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Medi 2024