Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Penodi staff ar gyfer anfon ac agor pleidleisiau post
Dylech nodi gofynion staffio ar gyfer sesiynau anfon ac agor pleidleisiau post. Efallai y bydd angen y staff canlynol:
- staff goruchwylio wedi'u hyfforddi'n arbennig
- staff clercio
- staff TG
Ni ddylech benodi unrhyw un a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd yn yr etholiad neu yn ei gylch.1
Gall nifer y pleidleisiau gwahanol a gynhelir a'ch penderfyniad ynghylch p'un a ddylech ddosbarthu pleidleisiau post ar wahân neu ar y cyd ai peidio gael effaith ar nifer y staff sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith hwn (os gwneir hyn yn fewnol) ac agor pleidleisiau drwy'r post, a bydd angen i chi gynllunio ar gyfer hyn yn unol â hynny.
Dylech gofio'r gofynion amser ar aelodau o staff craidd sy'n gysylltiedig ag anfon ac agor pleidleisiau post wrth ystyried eich anghenion staffio.
Staff ar gyfer anfon pleidleisiau post
Caiff nifer o bleidleisiau post ychwanegol eu hanfon yn ystod y cyfnod yn union cyn y diwrnod pleidleisio er mwyn cynnwys y rhai sydd wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post a'u cofrestru yn ystod y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru.2 Bydd angen i chi ystyried sut i reoli hyn, gan sicrhau y gellir anfon pleidleisiau post at etholwyr cyn gynted â phosibl.
Bydd angen i chi hefyd gynllunio ar gyfer unrhyw drefniadau penodol y bydd eu hangen i reoli dosbarthiad y pecynnau pleidleisio drwy'r post ychwanegol yn agos at y diwrnod pleidleisio, pan benderfynir ar geisiadau yn agos at y bleidlais. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar anfon pleidleisiau post.
Dylech ystyried cyfanswm nifer cyfredol y pleidleiswyr drwy'r post a nifer rhagamcanol y pleidleiswyr post wrth benderfynu ar eich trefniadau staffio, yn ogystal â'r posibilrwydd y ceir ymgysylltu a diddordeb yn yr etholiad pan na fydd llawer o gyfle i addasu cynlluniau. Dylech gynllunio ar gyfer posibilrwydd na fydd nifer y pleidleiswyr post yn llai na nifer y pleidleiswyr post yn yr etholiad cyfatebol diwethaf. Hefyd, bydd eich adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol yn rhoi arwydd i chi o ba mor gadarn oedd eich tybiaethau staffio blaenorol.
Efallai y bydd angen i chi ddiwygio'r asesiad hwn ar ôl i chi dderbyn rhestrau terfynol pleidleiswyr post gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Dylech gynnwys digon o hyblygrwydd a threfniadau wrth gefn yn eich trefniadau staffio i ddelio â chynnydd munud olaf yn nifer y pleidleiswyr post, cynnydd yn y nifer sy'n pleidleisio, neu nifer amrywiol o bleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd ar ddiwrnodau gwahanol. Mae angen i'ch trefniadau sicrhau y gallwch reoli'r rheini a ddosberthir i orsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio mewn modd effeithiol hefyd.
Rheoli contractwyr
Os byddwch yn penderfynu gosod y broses o anfon pleidleisiau post yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar gontract allanol, dylech ddynodi aelod o'r tîm prosiect i fonitro gwaith ar gontract allanol, ac yn benodol i fod yn bresennol yn ystod y rhannau hynny o'r broses ddosbarthu a roddwyd ar gontract allanol. Dylai'r unigolyn hwn hefyd fonitro gwaith y contractwr, a ddylai gynnwys ymgymryd â thasgau fel y canlynol:
- cynnal hapwiriadau er mwyn sicrhau nad yw'r papurau ar gyfer pleidleisiau post yn cynnwys unrhyw wallau
- cadarnhau bod y pecynnau pleidleisio drwy'r post yn cael eu coladu'n gywir
- sicrhau bod unrhyw bleidleisiau post y mae angen iddynt gael eu hanfon dramor yn cael blaenoriaeth
Ceir rhagor o ganllawiau ar reoli contractwyr a chyflenwyr yn ein canllawiau ar Reoli contractwyr a chyflenwyr.
Staff ar gyfer agor pleidleisiau post
Bydd y modd y dilysir dynodwyr personol, gan gynnwys faint o'r broses hon a gaiff ei hawtomeiddio a faint ohoni fydd yn gorfod cael ei gwneud â llaw, yn cael effaith ar nifer yr aelodau o staff y bydd angen i chi eu penodi ar gyfer agor pleidleisiau post a ddychwelir. Rhaid i chi gael trefniadau ar waith i'ch galluogi i wirio pob un o'r manylion adnabod ar gyfer pleidleisiau post.3
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y broses agor pleidleisiau post.
- 1. Para 27 Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 25(1) Atodlen 3 PCCEO 2012 ac Adran 13B Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 51 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3