Beth yw'r dyddiadau cau ar gyfer cynnwys gwybodaeth ar gofrestr ddiwygiedig pan gaiff ei chyhoeddi rhwng canfasiadau?

Beth yw'r dyddiadau cau ar gyfer cynnwys gwybodaeth ar gofrestr ddiwygiedig pan gaiff ei chyhoeddi rhwng canfasiadau? 

Mae'r tabl hwn yn nodi'r amserlen ar gyfer gwneud ceisiadau a phenderfyniadau mewn da bryd i'w cynnwys ar gofrestr ddiwygiedig a gaiff ei chyhoeddi rhwng canfasiadau.1  

Dyddiad cyhoeddi A ddewiswyd gennych chi (ar yr amod eich bod wedi rhoi 14 diwrnod calendr o rybudd o'ch bwriad i'w cyhoeddi) 
Dyddiad cau ar gyfer penderfynu; dyddiad cau ar gyfer dileu; dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau cofrestru dienw a phenderfynu arnynt 14 diwrnod calendr cyn diwedd y mis cyn y mis y disgwylir i'r gofrestr ddiwygiedig gael ei chyhoeddi 
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau (ceisiadau newydd a diwygiadau i gofnodion presennol)
 

6 diwrnod gwaith cyn y dyddiad cau ar gyfer penderfynu
 

I gael rhagor o wybodaeth am y dyddiadau cau ar gyfer gwneud ceisiadau a phenderfyniadau sy'n berthnasol wrth gyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig, gweler ein canllawiau – Pryd y dylwn gyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig yn dilyn y canfasiad blynyddol?

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021