Beth os nad yw cyfeiriad wedi'i restru ar wasanaeth digidol IER?

Beth os nad yw cyfeiriad wedi'i restru ar wasanaeth digidol IER? 

Mae gwefan Cofrestru i Bleidleisio llywodraeth y DU yn defnyddio gwasanaeth cyfeirio'r Arolwg Ordnans.  Gall defnyddwyr fewnosod eu cod post a dewis eu cyfeiriad o'r rhestr a ddarperir. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd, efallai na fydd cod post neu gyfeiriad defnyddiwr yn ymddangos ar gronfa ddata'r Arolwg Ordnans, er enghraifft, os yw cyfeiriad yn adeilad newydd. 

Lle caiff y cod post ei gydnabod ond nad yw'r cyfeiriad gofynnol yn ymddangos, bydd defnyddwyr yn gallu ychwanegu eu cyfeiriad â llaw. Os na chaiff y cod post ei gydnabod, bydd y defnyddiwr hefyd yn gallu dewis yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am yr ardal lle maent yn byw o'r gwymplen.   

Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Mai 2021