Gohebiaeth ddewisol

Gohebiaeth ddewisol

Bwriedir i'r ohebiaeth ganfasio a ddyluniwyd gan y Comisiwn gael ei defnyddio'n benodol yn ystod y canfasiad ac nid oes unrhyw ddarpariaeth ddeddfwriaethol i'w defnyddio y tu allan i'r cyfnod canfasio.  Fodd bynnag, gallwch gysylltu â chartrefi drwy gydol y flwyddyn er mwyn helpu i gynnal eich cofrestr etholiadol, yn enwedig os bydd gennych dystiolaeth am newidiadau posibl y mae angen eu nodi. 


Rydym wedi llunio ffurflenni enghreifftiol ar gyfer cysylltu â chartrefi y tu allan i'r canfasiad, y gallwch eu defnyddio o bosibl. Maent ar gael ar ein tudalen we Ffurflenni cofrestru a llythyrau.

Gallwch hefyd gynllunio eich ffurflen eich hun i'w defnyddio drwy gydol y flwyddyn, ond os gwnewch hynny, ni ddyld cyfeirio ati fel Ffurflen Ganfasio, ac ni ddylai gynnwys gwybodaeth sydd ond yn gymwys i'r canfasiad. 

Ni fydd angen rhagargraffu manylion presennol yr etholwr ar unrhyw ohebiaeth ddewisol i'w defnyddio y tu allan i'r canfasiad, ond gallwch wneud hynny os byddwch yn dymuno.

Efallai y byddwch yn penderfynu bod llythyr hysbysu cartrefi yn ffordd fwy priodol o gysylltu â rhai cartrefi y tu allan i'r canfasiad fel rhan o'r gwaith a wneir gennych i gynnal y gofrestr. Bwriad y llythyr hysbysu cartrefi yw annog unigolion nad ydynt wedi cofrestru i wneud hynny. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Gorffennaf 2021