Ystyriaethau diogelu data wrth ddefnyddio contractwyr i lunio eich llythyrau hysbysu cartrefi
Ystyriaethau diogelu data wrth ddefnyddio contractwyr i lunio eich llythyrau hysbysu cartrefi
Os ydych yn anfon data o'r gofrestr etholiadol at gontractwr neu gyflenwr i lunio eich llythyrau hysbysu carrtrefi, neu i ddarparu gwasanaeth ymateb awtomataidd, rydych yn defnyddio prosesydd i brosesu data personol ar eich rhan.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i chi ond penodi prosesydd a all roi sicrwydd digonol y caiff gofynion deddfwriaeth diogelu data eu bodloni. Mae hyn yn golygu bod angen i'r broses o ddiogelu data fod yn rhan annatod o unrhyw ymarfer tendro, a dylech ddogfennu'r ffordd y byddwch yn mynd ati i wneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod gennych lwybr archwilio.
Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio prosesydd, mae deddfwriaeth diogelu data yn gosod rhwymedigaeth gyfreithiol i ffurfioli'r gydberthynas waith mewn cytundeb neu gontract ysgrifenedig sy'n cynnwys y canlynol:
y pwnc, natur a diben y prosesu
rhwymedigaethau a hawliau'r rheolydd data
hyd y cyfnod prosesu
y mathau o ddata personol a chategorïau gwrthrychau'r data
Mae deddfwriaeth diogelu data hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r contract nodi rhwymedigaethau penodol ar y prosesydd, gan gynnwys gwneud y canlynol:
cydymffurfio â'ch cyfarwyddiadau
bod yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd
cadw data personol yn ddiogel a'ch hysbysu o unrhyw achos o dorri amodau
cadw cofnodion ysgrifenedig o'r gweithgareddau prosesu y mae'n cyflawni ar eich rhan
dim ond defnyddio is-brosesydd gyda'ch caniatâd
ildio i archwiliadau ac arolygiadau a rhoi pa wybodaeth bynnag sydd ei hangen arnoch i sicrhau y cydymffurfir â gofynion diogelu data
dileu neu ddychwelyd unrhyw ddata personol fel y gofynnir amdanynt ar ddiwedd y contract
Fel y rheolydd data, chi sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau bod data personol yn cael eu prosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Fodd bynnag, os bydd prosesydd yn methu â chyflawni unrhyw un o'i rwymedigaethau, neu'n mynd yn groes i'ch cyfarwyddiadau, gall hefyd orfod talu iawndal neu gall gael dirwy neu gosb neu fesurau unioni eraill. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi darparu canllawiau ar gontractau a rhwymedigaethau rhwng rheolyddion a phroseswyr y dylech eu hystyried o ran eich contractau â phroseswyr data.
Pan fyddwch yn defnyddio contractwr, dylech sicrhau bod gennych brosesau prawfddarllen cadarn ar waith, gan gynnwys sicrhau mai dim ond y data sydd eu hangen ar gyfer pob proses benodol y byddwch yn eu darparu. Gallai hyn helpu i ganfod unrhyw wallau ac osgoi achosion o dorri diogelwch data cyn iddynt ddigwydd.
Rydym wedi llunio taflen ffeithiau prawfddarllen y gallwch ei defnyddio i'ch helpu i sicrhau ansawdd eich prosesau.
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.
Rydym hefyd wedi llunio rhestr wirio ar gyfer datblygu a rheoli contractau i'ch helpu i weithio gyda chyflenwyr/contractwyr.
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.