Pa adnoddau sydd eu hangen i reoli gweithgarwch ffurflenni ymholiadau cofrestru?
Bydd angen adnoddau arnoch i wneud y canlynol:
prosesu unrhyw gofrestriadau newydd o ganlyniad i anfon y llythyrau
cynnal adolygiadau cofrestru neu geisio ail ddarn o dystiolaeth lle y bo'n ofynnol i ddileu etholwyr nad ydynt yn byw mewn cyfeiriad penodol mwyach
ymdrin ag unrhyw ymholiadau gan etholwyr o ganlyniad i'r ffurflen
Bydd angen i chi hefyd benderfynu ar y trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal y gweithgaredd a'r goblygiadau o ran costau ac adnoddau ychwanegol. Er enghraifft, a fyddwch yn argraffu'r ffurflenni yn fewnol neu'n defnyddio cyflenwr allanol? A fyddwch yn defnyddio canfaswyr i ddosbarthu'r ffurflenni, neu'n defnyddio gwasanaeth post?