Mae Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn estyn yr etholfraint i gynnwys dinasyddion tramor cymwys ar gyfer etholiadau'r Senedd1
ac mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru) 2021 yn estyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor cymwys ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.2
Rhaid i'r cofnod yn y cofrestrau cyfun ar gyfer dinesydd tramor cymwys ddangos y ffaith honno.3
Mae etholwyr o unrhyw genedligrwydd yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion o ran oedran a phreswylio ac nad ydynt yn anghymwys yn ôl y gyfraith i bleidleisio.
Mae dinesydd tramor cymwys yn unigolyn nad yw:
yn ddinesydd y Gymanwlad, neu
yn ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon
ac sydd â chaniatad i aros yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu nad oes angen caniatâd arno i aros ynddynt, neu sy'n cael ei drin fel pe bai ganddo ganiatâd i ddod i mewn i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu i aros ynddynt.4
Ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion o ran oedran, preswylio a chymhwysedd cyfreithiol, mae dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon a'r Gymanwlad yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.