A gaiff dinesydd y Gymanwlad gofrestru i bleidleisio?

A gaiff dinesydd y Gymanwlad gofrestru i bleidleisio? 

Mae hawl gan ddinasyddion cymwys y Gymanwlad gofrestru fel etholwyr Seneddol a llywodraeth leol cyn belled â'u bod ar y dyddiad perthnasol hefyd yn bodloni'r gofynion oedran a phreswylio ar gyfer cofrestru a’u bod ddim yn destun unrhyw anallu cyfreithiol arall. 1

Nid yw dinasyddion gwledydd y Gymanwlad heblaw'r Deyrnas Unedig yn gymwys i gofrestru fel etholwyr tramor.2

Dinesydd cymwys y Gymanwlad 3

Mae person yn ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad os nad oes angen caniatâd arno i ddod i mewn i'r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw neu i aros ynddynt, neu os oes angen caniatâd arno i ddod i mewn i'r DU neu i aros yno a’i fod wedi cael caniatâd o’r fath, neu os yw'n cael ei drin fel pe bai wedi cael caniatâd o'r fath.

Mae unrhyw fath o ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn dderbyniol, boed yn amhenodol, am gyfnod cyfyngedig neu’n amodol.

Dinasyddion y gymanwlad yn y DU dros dro ac yn disgwyl eu symud

Mae'r Swyddfa Gartref wedi cynghori bod dinasyddion y Gymanwlad sydd yn y DU dros dro ac yn disgwyl eu symud, ddim yn y DU yn gyfreithlon tra bod trefniadau i'w symud yn cael eu gwneud. Gan nad oes gan y dinasyddion hyn ganiatad i ddod mewn nag aros, nid ydynt yn gymwys i gofrestru i bleidleisio.

 

Rhestr o wledydd y Gymanwlad 
Antigwa a BarbiwdaY GambiaSaint Lucia
AwstraliaGhanaSaint Vincent a'r Grenadines
Y BahamasGrenada    Samoa
BangladeshGweriniaeth Unedig TansanïaSeland Newydd
BarbadosIndiaSeychelles
Belise        JamaicaSierra Leone
BotswanaLesotho    Simbabwe
Brunei DarussalamMalawi    Singapore
CamerŵnMaleisia    Sri Lanca
CanadaMalta*    Teyrnas Eswatini
Cenia    MawrisiwsTogo
CiribatiMozambique    Tonga
Cyprus*Namibia    Trinidad a Thobago
De Affrica    Nawrw    Twfalw
Y Deyrnas UnedigNigeriaVanuatu
Dominica    PacistanWganda
FfijiPapwa Gini NewyddYnysoedd y Maldives
Gabon    RwandaYnysoedd Solomon
GaianaSaint Kitts a NevisZambia

*Er eu bod hefyd yn aelod wladwriaeth y DU, mae dinasyddion Cyprus a Malta yn gymwys i gofrestru i bleidleisio ymhob etholioad a gynhelir yn y DU.

Mae dinasyddion gwledydd y Gymanwlad sydd wedi’u diarddel o’r Gymanwlad yn cadw eu hawliau i bleidleisio. Byddai eu hawliau i bleidleisio ond yn cael eu heffeithio petai eu gwlad hefyd yn cael ei dileu o’r rhestr o wledydd y Gymanwlad yn Neddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 drwy Ddeddf Senedd y DU.

Sut ydych chi'n prosesu cais gan ddinesydd o Gyprus?

At ddibenion cofrestru, ystyrir Cyprus gyfan yn wlad y Gymanwlad ac ni ddylech boeni am sefyllfa wleidyddol yr ynys. Os oes unrhyw amheuaeth ynghylch a ddylai person o Gyprus gael ei gofrestru, dylid gofyn iddo gadarnhau ei fod yn Chypriad, er enghraifft drwy lenwi Ffurflen Fformat Unffurf (yn agor mewn ffenestr newydd) gyda fisa DU, trwydded breswylio'r DU yn dangos cenedligrwydd Chypriad, neu dystiolaeth briodol arall. Ni all cofrestriad fel Chypriad fod yn seiliedig ar basbort Twrcaidd yn unig. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Gorffennaf 2024