Dinasyddion o ba wledydd a gaiff bleidleisio ym mha etholiadau?

Dinasyddion o ba wledydd a gaiff bleidleisio ym mha etholiadau?

Etholiadau Senedd y DU 

Mae pob un o ddinasyddion Prydain a Gweriniaeth Iwerddon a phob dinesydd cymwys o'r Gymanwlad yn bodloni'r gofyniad o ran cenedligrwydd i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU.1  

Etholiadau llywodraeth leol a’r Senedd

Mae dinasyddion Prydain a'r Undeb Ewropeaidd a dinasyddion cymwys o'r Gymanwlad yn bodloni'r gofyniad o ran cenedligrwydd i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a’r Senedd.2  

Mae hawl gan ddinasyddion tramor cymwys i gael eu cofrestru ar y gofrestr etholiadau llywodraeth leol, ond dim ond at ddibenion etholiadau llywodraeth leol 3 ac etholiadau'r Senedd.4  

Etholiadau eraill 

Mae dinasyddion Prydeinig, dinasyddion cymwys yr UE a dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir, a dinasyddion cymwys y Gymanwlad i gyd yn bodloni’r gofynion cenedligrwydd i gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.4

Rydym wedi cynhyrchu adnodd sy'n amlinellu'r gofynion o ran cenedligrwydd ar gyfer pob math o etholiad. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Mai 2024