Adolygiadau o gofrestriadau

Mae rhai amgylchiadau lle gallwch ddileu cofnod rhywun oddi ar y gofrestr heb fod angen adolygiad. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddileadau heb adolygiad.
 
Fodd bynnag, mae dyletswydd arnoch i gynnal adolygiad os na fydd amgylchiadau'n eich galluogi i ddileu cofnod rhywun oddi ar y gofrestr heb gynnal adolygiad o'r cofnod.1
 
Mae adolygiadau cofrestru yn helpu i sicrhau bod y gofrestr mor gywir â phosibl. Dylech fonitro unrhyw gofnodion lleol y byddwch yn eu defnyddio i helpu i nodi lle nad yw etholwyr yn byw mewn cyfeiriad mwyach. 

Mae dyletswydd arnoch i sicrhau, cyhyd ag y bo'n rhesymol ymarferol, na fydd personau nad oes ganddynt hawl i fod wedi'u cofrestru wedi'u cofrestru.2 Mae hyn yn cynnwys unrhyw etholwyr cyffredin, dienw ac etholwyr categori arbennig eraill. 

Gallwch hefyd gynnal adolygiad ar unrhyw adeg arall os bydd gennych reswm i gredu nad oes gan rywun hawl i fod wedi'i gofrestru.

Mae ein canllawiau ar archwilio cofnodion eraill yn nodi'r cofnodion y mae gennych hawl i'w harchwilio, gan gynnwys ystyriaethau diogelu data, a gall y cofnodion hyn ddangos i chi os na fydd rhywun yn byw mewn cyfeiriad mwyach.

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024