Os bydd unigolyn yn gwneud cais llwyddiannus i gofrestru fel etholwr tramor, bydd ei ddatganiad yn ddilys am hyd at 3 blynedd. Daw pob datganiad i ben ar y trydydd 1 Tachwedd ar ôl y dyddiad pan ddaw cofnod yr unigolyn ar y gofrestr yn weithredol am y tro cyntaf, oni bai bod yr etholwr wedi adnewyddu ei ddatganiad yn llwyddiannus. Mae ein canllawiau ar adnewyddu datganiadau tramor yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.
Gall cofrestriadau gael eu tynnu oddi ar y gofrestr yn gynt o dan yr amgylchiadau canlynol:
pan fyddwch yn pennu nad oes hawl gan y person i gael ei gofrestru mwyach2
pan fyddwch yn pennu bod y person wedi'i gofrestru, neu fod ei gofnod wedi'i newid, o ganlyniad i gais a wnaed gan berson arall (h.y., nid yr unigolyn y caiff ei fanylion eu darparu ar y cais ac sydd wedi datgan bod y wybodaeth a roddwyd yn wir)3
os caiff cofnod arall ei wneud mewn perthynas â'r etholwr mewn unrhyw gofrestr etholwyr4
Gall pleidleisiwr tramor ganslo ei ddatganiad unrhyw bryd.5
Bydd canslo datganiad tramor hefyd yn canslo unrhyw drefniant pleidleisio absennol sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r datganiad hwnnw, hyd yn oed os bydd yr etholwr yna'n cofrestru fel etholwr cyffredin yn yr un cyfeiriad cymwys.
Am ganllawiau ar dynnu etholwr oddi ar y gofrestr, darllenwch ein canllawiau ar ddileu.