Os ydych wedi penderfynu bod hawl gan yr ymgeisydd i gael ei gofrestru, rhaid i chi roi cadarnhad iddo fod ei gais am gofrestriad wedi bod yn llwyddiannus.1
Gallwch anfon y cadarnhad at yr ymgeisydd drwy'r post neu drwy e-bost.2
Ar y cyd â'r cadarnhad, dylech hefyd gynnwys gwybodaeth am unrhyw drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith. Os nad oes unrhyw drefniadau ar waith, dylech egluro beth yw ei opsiynau pleidleisio absennol a sut i wneud cais.
Os byddwch wedi gwrthod cais am gofrestriad, rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd gan nodi'r rhesymau dros hynny.3
Cadarnhau datganiadau adnewyddu
Rhaid i chi hysbysu'r etholwr am ganlyniad datganiad adnewyddu a gyflwynwyd ganddo.4
Gallwch benderfynu gwneud hyn drwy anfon llythyr cadarnhad, ond nid yw hyn yn orfodol. Gallech hefyd gadarnhau bod y broses adnewyddu wedi bod yn llwyddiannus drwy e-bost.
Gallai'r ohebiaeth hon hefyd gynnwys gwybodaeth am pryd y daw ei ddatganiad i ben, sut a phryd y byddwch yn ei atgoffa i'w adnewyddu, pa drefniadau pleidleisio absennol sydd ar waith ganddo ac os nad oes unrhyw drefniadau o'r fath ar waith, wybodaeth am opsiynau pleidleisio absennol.
Dylech hysbysu'r etholwr am amseriadau cyffredinol ar gyfer anfon pleidleisiau post cyn etholiad a gallech gynghori'r etholwr i benodi dirprwy os nad yw'n realistig i'w becyn pleidleisio drwy'r bost gael ei anfon, ei gwblhau a'i ddychwelyd cyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Wrth gwrs, dewis yr etholwr yw pa ddull o bleidleisio sydd orau ganddo, ond mae'n bwysig ei fod yn gallu gwneud penderfyniad hyddysg.
Y Swyddog Cofrestru Etholiadol fydd yn penderfynu ar ffurf a fformat y cadarnhad.
1. Rheoliad 22(1) a Rheoliad 29(2BA), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr) (fel y'u diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliad 29 (2BB), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr) (fel y'u diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 2
3. Rheoliad 22(2)(c), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr) (fel y'u diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 3