Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Trefniadau pleidleisio absennol ar gyfer etholwyr tramor
Mae trefniant pleidleisio drwy'r post etholwr tramor yn cysylltu'n uniongyrchol â'i gofrestriad a daw i ben ar y trydydd 1 Tachwedd a gyfrifir o'r dyddiad gwreiddiol y cafodd ei ychwanegu at y gofrestr.
Mae'r tabl hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau wedi'u cyfrifo:
Dyddiad ychwanegu at y gofrestr etholiadol | Dyddiad ychwanegu at y gofrestr etholiadol |
---|---|
Ychwanegu 1 Mawrth 2024 | 1 Tachwedd 2026 |
Dyddiad ychwanegu cyn 1 Hydref 2024 | 1 Tachwedd 2026 |
Dyddiad ychwanegu cyn 1 Hydref 2025 | 1 Tachwedd 2027 |
Gall fod achosion lle bydd etholwr tramor yn adnewyddu ei ddatganiad a'i bleidlais bost yn gynt yn ystod ei gyfnod adnewyddu na'r dyddiad cau, sef 1 Tachwedd. Daw unrhyw drefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwr tramor i ben pan ddaw ei gofrestriad etholiadol i ben, ni waeth pryd y gwnaed y cais am bleidlais bost.
Yn yr achosion hyn, gall y trefniant pleidleisio drwy'r post fod yn weithredol am fwy na'r uchafswm o 3 blynedd am fod y trefniant pleidleisio drwy'r post wedi'i gysylltu â'r datganiad adnewyddu a bydd yn weithredol nes daw'r datganiad adnewyddu i ben. Mae'r tabl hwn yn cynnwys rhai enghreifftiau wedi'u cyfrifo:
Dyddiad adnewyddu datganiad tramor | Dyddiad y daw'r trefniant pleidleisio drwy'r post i ben |
---|---|
1 Medi 2024 | 1 Tachwedd 2027 |
1 Hydref 2025 | 1 Tachwedd 2028 |
31 Hydref 2026 | 1 Tachwedd 2029 |
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar reoli'r broses o adnewyddu cofrestriad etholwr tramor.
Adnewyddu pleidlais absennol ochr yn ochr â datganiad etholwr tramor
Gall etholwyr tramor wneud cais arall am drefniadau pleidleisio absennol neu'u diweddaru pan fyddant yn adnewyddu eu datganiad.
Gallwch ddewis cyfuno trefniadau adnewyddu pleidleisiau absennol â threfniadau adnewyddu datganiadau, ond nid yw hyn yn orfodol gan na fydd gan bob etholwr tramor drefniant pleidleisio absennol.
Os daw cais newydd am bleidlais bost i law ar wahân i ddatganiad adnewyddu gan etholwr tramor yn ystod y cyfnod adnewyddu ac nad oes digwyddiad pleidleisio wedi'i drefnu, dylech gadarnhau a yw'r etholwr wedi gwneud datganiad adnewyddu. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech gysylltu â'r etholwr tramor i gadarnhau a yw am adnewyddu ei ddatganiad ac i'w atgoffa i gwblhau ei ddatganiad adnewyddu os yw'n dymuno gwneud hynny. Os bydd yn cadarnhau ei fod yn bwriadu adnewyddu ei ddatganiad, dylech aros i dderbyn y datganiad adnewyddu a'i brosesu cyn y cais am bleidlais bost oherwydd, fel arall, dim ond nes i'w ddatganiad etholwr tramor presennol ddod i ben y byddai ei drefniant pleidleisio absennol yn ddilys.
Os na allwch gael cadarnhad gan yr etholwr, dylech brosesu'r cais am bleidlais bost heb y datganiad adnewyddu ac egluro i'r etholwr y bydd ond yn gymwys tan ddiwedd cyfnod y datganiad (h.y., hyd at 1 Tachwedd). Os daw datganiad adnewyddu i law wedyn, byddai'n ofynnol i'r etholwr tramor wneud cais arall am ei bleidlais bost os yw'n awyddus i'w drefniant barhau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Os caiff digwyddiad pleidleisio ei alw tra byddwch yn aros i'r etholwr ymateb neu os bydd etholiad eisoes yn agosáu, dylech brosesu unrhyw gais am bleidlais bost rydych wedi'i gael ar unwaith. Pan fyddwch yn cadarnhau bod y cais am bleidlais bost wedi cael ei brosesu, dylech egluro pam eich bod wedi gwneud hynny ac y bydd angen i'r etholwr gwblhau cais arall os hoffai i'w drefniant pleidleisio drwy'r post barhau ar ôl i'w ddatganiad presennol ddod i ben.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar drefniadau pleidleisio absennol.